RHAN 15Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau
Hysbysu mewn cysylltiad â marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya mewn cartref diogel i blantI162
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo plentyn y darperir gwasanaeth llety diogel23 iddo yn marw.
2
Mae unrhyw ofynion a osodir gan y rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth y gwasanaeth llety diogel a oedd yn darparu llety i’r plentyn ar adeg ei farwolaeth.
3
Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth yn ddi-oed hysbysu—
a
swyddfa briodol y rheoleiddiwr gwasanaethau;
b
yr awdurdod lleoli;
c
yr awdurdod lleol y mae’r gwasanaeth llety diogel yn ei ardal;
d
y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r gwasanaeth llety diogel yn ei ardal;
e
Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth Cymru a Lloegr (“yr OCPh”); ac
f
rhiant y plentyn neu’r person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
4
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ganiatáu i’r OCPh ymchwilio i’r farwolaeth drwy—
a
rhoi i’r OCPh fynediad i—
i
mangre’r gwasanaeth; a
ii
dogfennau a chofnodion y gwasanaeth;
b
caniatáu i’r OCPh fynd â chopïau, o’r fangre, o unrhyw ddogfennau neu gofnodion y ceir mynediad iddynt o dan is-baragraff (a)(ii) ar yr amod bod gan yr OCPh drefniadau diogel ar gyfer gwneud hynny; ac
c
os byddant yn cydsynio, ganiatáu i’r OCPh gyf-weld yn breifat ag unrhyw blant, rhieni (neu bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant) neu berthnasau, neu bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth.
5
Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn—
a
cynnwys manylion—
i
amgylchiadau’r farwolaeth;
ii
y personau, y cyrff neu’r sefydliadau eraill (os oes rhai) y mae’r darparwr gwasanaeth wedi eu hysbysu neu’n bwriadu eu hysbysu; a
iii
unrhyw gamau gweithredu y mae’r darparwr gwasanaeth wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd o ganlyniad i’r farwolaeth;
b
cael ei wneud neu ei gadarnhau yn ysgrifenedig.
6
Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at yr OCPh yn cynnwys person sydd wedi ei benodi gan, neu sy’n gweithio ar ran, yr OCPh at ddibenion ymchwiliad o dan baragraff (2).