RHAN 16Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol
Dyletswydd i benodi rheolwr67.
(1)
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.
(2)
Yr amodau yw—
(a)
bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn;
(b)
bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth;
(c)
bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth;
(d)
bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru; ac
(e)
bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.
(3)
Yr amodau yw—
(a)
bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig;
(b)
bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd mewn dim mwy na dau leoliad neu ei fod wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref mewn perthynas â dim mwy na dwy ardal;
(c)
bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i gael ei benodi i reoli’r gwasanaeth;
(d)
bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth;
(e)
bod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru; ac
(f)
bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.
(4)
At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion F1rheoliad 35(2) (addasrwydd staff) yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.
(5)
Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.