xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 16LL+CGofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol

Dyletswydd i benodi rheolwrLL+C

67.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.

(2Yr amodau yw—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn;

(b)bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth;

(c)bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth;

(d)bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru; ac

(e)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.

(3Yr amodau yw—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig;

(b)bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd mewn dim mwy na dau leoliad neu ei fod wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref mewn perthynas â dim mwy na dwy ardal;

(c)bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i gael ei benodi i reoli’r gwasanaeth;

(d)bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth;

(e)bod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru; ac

(f)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.

(4At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion [F1rheoliad 35(2)] (addasrwydd staff) yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.

(5Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 67 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)