Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella

8.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—

(a)unigolion,

(b)unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn,

(c)yn achos unigolyn sy’n blentyn y darperir llety iddo fel rhan o wasanaeth cartref gofal, yr awdurdod lleoli,

(d)comisiynwyr gwasanaethau, ac

(e)staff,

ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.

(3Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a

(b)rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd gofal a lunnir gan yr unigolyn cyfrifol yn unol â rheoliad 80(4).