RHAN 3Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau
Gofynion mewn perthynas â monitro a gwellaI18
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
2
Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—
a
unigolion,
b
unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn,
c
yn achos unigolyn sy’n blentyn y darperir llety iddo fel rhan o wasanaeth cartref gofal, yr awdurdod lleoli,
d
comisiynwyr gwasanaethau, ac
e
staff,
ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.
3
Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a
b
rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd gofal a lunnir gan yr unigolyn cyfrifol yn unol â rheoliad 80(4).