ATODLEN 1

Rheoliad 35

RHAN 1Gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig

1.

Prawf o bwy yw’r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.

Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 199728, copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys29 a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan fo’n gymwys, â’r wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

3.

Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys30 a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â’r wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).

4.

Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diweddaraf, os oes un.

5.

Pan fo person wedi gweithio’n flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben.

6.

Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

7.

Pan fo’n berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.

8.

Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

9.

Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu gofal a chymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i ddarparu gofal a chymorth ar eu cyfer.

10.

Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff o’r fath.

RHAN 2Dehongli Rhan 1

11.

At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—

(a)

os nad yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

(i)

os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 34(3) neu (6), a

(ii)

os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers i’r dystysgrif gael ei dyroddi;

(b)

os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.