RHAN 1LL+CCofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig
1. Mewn cysylltiad â phob unigolyn, cofnodion—LL+C
(a)o bob asesiad perthnasol;
(b)o gynlluniau personol;
(c)o adolygiadau o gynlluniau personol;
(d)o gynlluniau gofal a chymorth;
(e)o adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth;
(f)o’r gofal a ddarperir; gan gynnwys cofnodion dyddiol neu gofnodion o ymyriadau gofal penodol;
(g)o ohebiaeth, adroddiadau a chofnodion mewn perthynas â chymorth ychwanegol a ddarperir gan wasanaethau addysg, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau perthynol eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
2. Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am y ddarpariaeth o ofal a chymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
3. Cofnod o’r holl feddyginiaethau a gedwir yn y gwasanaeth ar gyfer pob unigolyn a’r dyddiad a’r amser y rhoddwyd y meddyginiaethau hynny i’r unigolyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
4. Cofnod o’r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a roddwyd gan yr unigolyn i’w cadw’n ddiogel neu a gafwyd ar ran yr unigolyn, y mae rhaid iddo gynnwys cofnod o’r canlynol—LL+C
(a)y dyddiad pan roddwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr i’w cadw neu pan gafwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;
(b)y dyddiad pan gafodd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr—
(i)eu dychwelyd at yr unigolyn, neu
(ii)eu defnyddio, ar gais yr unigolyn, ar ei ran;
(c)pan fo’n gymwys, at ba ddiben y defnyddiwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;
(d)cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu’r pethau gwerthfawr wedi eu dychwelyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
5. Cofnod o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—LL+C
(a)unrhyw ddamwain [F1neu anaf] difrifol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ar lesiant unigolyn;
(b)achos o glefyd heintus yn y gwasanaeth;
(c)unrhyw achos o ddwyn neu fwrgleriaeth;
(d)unrhyw atgyfeiriad diogelu a wneir mewn cysylltiad ag unigolyn;
(e)achosion o gwympo a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;
(f)achosion o [F2niwed] pwyso a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;
(g)dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheolaeth, atal neu ddisgyblu a ddefnyddir ar unigolyn.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Atod. 2 para. 5(a) wedi ei amnewid (1.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/757), rhlau. 1(2), 16(a)
F2Gair yn Atod. 2 para. 5(f) wedi ei amnewid (1.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/757), rhlau. 1(2), 16(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
6. Cofnod o bob ymarfer tân, dril tân neu brawf cyfarpar tân (gan gynnwys cyfarpar larwm tân) a gynhelir yn y gwasanaeth ac o unrhyw gamau gweithredu a gymerir i unioni diffygion yn y cyfarpar tân.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
7. Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
8. Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—LL+C
(a)enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, cymwysterau a phrofiad y person;
(b)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;
(c)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;
(d)y dyddiadau y mae’r person yn dechrau gweithio ac yn peidio â bod wedi ei gyflogi felly;
(e)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’n ei wneud a nifer yr oriau y mae wedi ei gyflogi bob wythnos;
(f)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;
(g)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
9. Copi o restr ddyletswyddau’r personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a chofnod o ran a oedd y rhestr yn gweithio yn ôl yr hyn a fwriadwyd mewn gwirionedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)