Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017

Cofnodion

10.  Rhaid i’r rheoleiddiwr gwasanaethau gadw cofnod o unrhyw hysbysiadau cosb a roddir, y mae rhaid iddo gynnwys—

(a)copi o bob hysbysiad cosb a roddir;

(b)cofnod o’r holl daliadau a wnaed a’r dyddiad pan y’u derbyniwyd;

(c)manylion unrhyw hysbysiad cosb sydd wedi ei dynnu’n ôl a’r seiliau dros hynny;

(d)manylion ynghylch a gafodd y derbynnydd ei erlyn am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb ar ei chyfer.