http://www.legislation.gov.uk/wsi/2017/165/contents/made/welsh
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Cymru) 2017
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2019-11-25
ADDYSG, CYMRU
Parhawyd â bodolaeth Cyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae adran 4 o Ddeddf 2014 yn nodi prif swyddogaethau’r Cyngor. Mae adran 5 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor neu osod swyddogaethau ychwanegol arno. Yn unol â hynny, mae Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 (“Gorchymyn 2017”) yn rhoi’r swyddogaethau ychwanegol a ganlyn i’r Cyngor (“y Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 (“Swyddogaethau Achredu a Chydymffurfedd”)—achredu cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;monitro cydymffurfedd cyrsiau neu raglenni astudio achrededig hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol â’r meini prawf achredu;tynnu achrediad cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ôl; acodi ffioedd mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaethau ym mharagraffau (a) i (c).