Search Legislation

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 4TRAFODION Y PWYLLGORAU

Hawliau personau i fod yn bresennol

10.  Mae hawl gan y personau a ganlyn i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod Pwyllgor neu Bwyllgor Apelau—

(a)y prif swyddog neu gynrychiolydd enwebedig y person hwnnw, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau yn penderfynu arnynt.

Penderfynu ar geisiadau gan y Pwyllgor

11.—(1Cyn penderfynu ar gais i achredu cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol rhaid i’r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth ysgrifenedig, y sylwadau a’r deunydd arall a gyflwynir iddo gan y ceisydd fel rhan o’r cais.

(2Caiff y Pwyllgor ganiatáu i geisydd gyflwyno sylwadau ar lafar iddo.

(3Caiff y Pwyllgor benderfynu—

(a)achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;

(b)peidio ag achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol; neu

(c)achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’r Pwyllgor yn ystyried eu bod yn briodol.

(4Caiff y Pwyllgor achredu cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol o dan baragraff (3)(a) neu (c) am unrhyw gyfnod y mae’n ystyried ei fod yn briodol ond ni chaiff fod yn llai na blwyddyn na mwy na 5 mlynedd.

(5Caiff y Pwyllgor—

(a)gofyn i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth arall (“yr wybodaeth ychwanegol”) y mae’n ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu ar y cais; a

(b)gohirio ei benderfyniad ar y cais hyd nes y darperir yr wybodaeth ychwanegol.

(6Rhaid i’r Pwyllgor roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd o’i benderfyniad o dan baragraff (3) o fewn 15 niwrnod gwaith i’r penderfyniad hwnnw.

(7Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (6) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)y rhesymau dros y penderfyniad ac, os ydynt yn gymwys, y meini prawf achredu nad yw’r ceisydd wedi eu bodloni,

(b)bod hawl gan y ceisydd i apelio yn erbyn y penderfyniad,

(c)y person y mae rhaid i’r ceisydd roi unrhyw hysbysiad o apêl iddo,

(d)bod rhaid i unrhyw hysbysiad o apêl gynnwys y sail dros yr apêl, ac

(e)y dyddiad olaf y caniateir i apêl gael ei gwneud.

(8Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 15.

Tynnu achrediad yn ôl

12.—(1Ni chaiff y Pwyllgor benderfynu tynnu achrediad cwrs neu raglen astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ôl ond yn unol â’r meini prawf achredu a bennir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd.

(2Rhaid i’r Pwyllgor roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr o’i benderfyniad o dan baragraff (1) o fewn 15 niwrnod gwaith i’r penderfyniad hwnnw.

(3Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (2) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)y rhesymau dros y penderfyniad ac yn benodol y meini prawf achredu nad yw’r darparwr bellach yn eu bodloni,

(b)bod hawl gan y darparwr i apelio yn erbyn y penderfyniad,

(c)y person y mae rhaid i’r darparwr roi unrhyw hysbysiad o apêl iddo,

(d)bod rhaid i unrhyw hysbysiad o apêl gynnwys y sail dros yr apêl, ac

(e)y dyddiad olaf y caniateir i apêl gael ei gwneud.

(4Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 15.

Penderfynu ar apelau gan y Pwyllgor Apelau

13.—(1Cyn penderfynu ar apêl yn erbyn penderfyniad o’r Pwyllgor o dan reoliadau 11 neu 12, rhaid i’r Pwyllgor Apelau ystyried yr holl dystiolaeth ysgrifenedig, y sylwadau a’r deunydd arall a gyflwynir iddo gan y ceisydd fel rhan o’r apêl.

(2Os yw’r Pwyllgor Apelau yn penderfynu caniatáu’r apêl rhaid iddo atgyfeirio’r mater yn ôl i’r Pwyllgor i ailystyried y cais.

(3Ni chaniateir unrhyw apelau pellach i’r Pwyllgor Apelau—

(a)os yw’r Pwyllgor Apelau yn penderfynu gwrthod yr apêl; neu

(b)os yw’r Pwyllgor yn penderfynu peidio ag achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ar ôl iddo ailystyried y cais yn unol â pharagraff (2).

(4Ni chaiff unrhyw berson a fu’n aelod o’r Pwyllgor a ystyriodd y cais achredu sy’n destun yr apêl fod yn aelod o’r Pwyllgor i ailystyried y cais.

(5Rhaid i’r Pwyllgor Apelau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd o’i benderfyniad o fewn 20 niwrnod gwaith i’r penderfyniad hwnnw.

(6Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (5) nodi’r rhesymau dros y penderfyniad.

(7Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 15.

Trafodion y Pwyllgor a’r Pwyllgor Apelau

14.—(1Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth y gwêl yn addas o ran gweithdrefn y Pwyllgor a’r Pwyllgor Apelau.

(2Nid yw trafodion Pwyllgor neu Bwyllgor Apelau yn cael eu hannilysu gan y canlynol—

(a)unrhyw swydd wag ymhlith eu haelodau; neu

(b)unrhyw ddiffygion o ran penodi unrhyw aelod o’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau.

(3Y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o’r fath yw 3.

(4Mae pob cwestiwn sydd i gael ei benderfynu mewn cyfarfod o’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau i gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau aelodau’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau (fel y bo’n briodol) sy’n bresennol ac sy’n pleidleisio ar y cwestiwn.

(5Pan fo’r pleidleisiau yn gyfartal, mae gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd y Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

Cyflwyno hysbysiad

15.—(1Caniateir cyflwyno hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson (“P”) o dan y Rheoliadau hyn drwy—

(a)ei ddanfon at P yn bersonol;

(b)y post i’r cyfeiriad a roddir i’r Cyngor gan P; neu

(c)post electronig, pan fo P yn gofyn am hynny.

(2Bernir bod hysbysiad a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwn wedi ei gyflwyno—

(a)yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a) ar y diwrnod y cafodd ei ddanfon;

(b)yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(b) ar y diwrnod gwaith nesaf; ac

(c)yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(c) ar y diwrnod y cafodd ei anfon.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources