RHAN 4TRAFODION Y PWYLLGORAU

Hawliau personau i fod yn bresennol10

Mae hawl gan y personau a ganlyn i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod Pwyllgor neu Bwyllgor Apelau—

a

y prif swyddog neu gynrychiolydd enwebedig y person hwnnw, a

b

unrhyw bersonau eraill y mae’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau yn penderfynu arnynt.

Penderfynu ar geisiadau gan y Pwyllgor11

1

Cyn penderfynu ar gais i achredu cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol rhaid i’r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth ysgrifenedig, y sylwadau a’r deunydd arall a gyflwynir iddo gan y ceisydd fel rhan o’r cais.

2

Caiff y Pwyllgor ganiatáu i geisydd gyflwyno sylwadau ar lafar iddo.

3

Caiff y Pwyllgor benderfynu—

a

achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;

b

peidio ag achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol; neu

c

achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’r Pwyllgor yn ystyried eu bod yn briodol.

4

Caiff y Pwyllgor achredu cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol o dan baragraff (3)(a) neu (c) am unrhyw gyfnod y mae’n ystyried ei fod yn briodol ond ni chaiff fod yn llai na blwyddyn na mwy na 5 mlynedd.

5

Caiff y Pwyllgor—

a

gofyn i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth arall (“yr wybodaeth ychwanegol”) y mae’n ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu ar y cais; a

b

gohirio ei benderfyniad ar y cais hyd nes y darperir yr wybodaeth ychwanegol.

6

Rhaid i’r Pwyllgor roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd o’i benderfyniad o dan baragraff (3) o fewn 15 niwrnod gwaith i’r penderfyniad hwnnw.

7

Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (6) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

a

y rhesymau dros y penderfyniad ac, os ydynt yn gymwys, y meini prawf achredu nad yw’r ceisydd wedi eu bodloni,

b

bod hawl gan y ceisydd i apelio yn erbyn y penderfyniad,

c

y person y mae rhaid i’r ceisydd roi unrhyw hysbysiad o apêl iddo,

d

bod rhaid i unrhyw hysbysiad o apêl gynnwys y sail dros yr apêl, ac

e

y dyddiad olaf y caniateir i apêl gael ei gwneud.

8

Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 15.

Tynnu achrediad yn ôl12

1

Ni chaiff y Pwyllgor benderfynu tynnu achrediad cwrs neu raglen astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ôl ond yn unol â’r meini prawf achredu a bennir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd.

2

Rhaid i’r Pwyllgor roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr o’i benderfyniad o dan baragraff (1) o fewn 15 niwrnod gwaith i’r penderfyniad hwnnw.

3

Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (2) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

a

y rhesymau dros y penderfyniad ac yn benodol y meini prawf achredu nad yw’r darparwr bellach yn eu bodloni,

b

bod hawl gan y darparwr i apelio yn erbyn y penderfyniad,

c

y person y mae rhaid i’r darparwr roi unrhyw hysbysiad o apêl iddo,

d

bod rhaid i unrhyw hysbysiad o apêl gynnwys y sail dros yr apêl, ac

e

y dyddiad olaf y caniateir i apêl gael ei gwneud.

4

Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 15.

Penderfynu ar apelau gan y Pwyllgor Apelau13

1

Cyn penderfynu ar apêl yn erbyn penderfyniad o’r Pwyllgor o dan reoliadau 11 neu 12, rhaid i’r Pwyllgor Apelau ystyried yr holl dystiolaeth ysgrifenedig, y sylwadau a’r deunydd arall a gyflwynir iddo gan y ceisydd fel rhan o’r apêl.

2

Os yw’r Pwyllgor Apelau yn penderfynu caniatáu’r apêl rhaid iddo atgyfeirio’r mater yn ôl i’r Pwyllgor i ailystyried y cais.

3

Ni chaniateir unrhyw apelau pellach i’r Pwyllgor Apelau—

a

os yw’r Pwyllgor Apelau yn penderfynu gwrthod yr apêl; neu

b

os yw’r Pwyllgor yn penderfynu peidio ag achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ar ôl iddo ailystyried y cais yn unol â pharagraff (2).

4

Ni chaiff unrhyw berson a fu’n aelod o’r Pwyllgor a ystyriodd y cais achredu sy’n destun yr apêl fod yn aelod o’r Pwyllgor i ailystyried y cais.

5

Rhaid i’r Pwyllgor Apelau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd o’i benderfyniad o fewn 20 niwrnod gwaith i’r penderfyniad hwnnw.

6

Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (5) nodi’r rhesymau dros y penderfyniad.

7

Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 15.

Trafodion y Pwyllgor a’r Pwyllgor Apelau14

1

Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth y gwêl yn addas o ran gweithdrefn y Pwyllgor a’r Pwyllgor Apelau.

2

Nid yw trafodion Pwyllgor neu Bwyllgor Apelau yn cael eu hannilysu gan y canlynol—

a

unrhyw swydd wag ymhlith eu haelodau; neu

b

unrhyw ddiffygion o ran penodi unrhyw aelod o’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau.

3

Y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o’r fath yw 3.

4

Mae pob cwestiwn sydd i gael ei benderfynu mewn cyfarfod o’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau i gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau aelodau’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau (fel y bo’n briodol) sy’n bresennol ac sy’n pleidleisio ar y cwestiwn.

5

Pan fo’r pleidleisiau yn gyfartal, mae gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd y Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

Cyflwyno hysbysiad15

1

Caniateir cyflwyno hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson (“P”) o dan y Rheoliadau hyn drwy—

a

ei ddanfon at P yn bersonol;

b

y post i’r cyfeiriad a roddir i’r Cyngor gan P; neu

c

post electronig, pan fo P yn gofyn am hynny.

2

Bernir bod hysbysiad a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwn wedi ei gyflwyno—

a

yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a) ar y diwrnod y cafodd ei ddanfon;

b

yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(b) ar y diwrnod gwaith nesaf; ac

c

yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(c) ar y diwrnod y cafodd ei anfon.