10. Mae hawl gan y personau a ganlyn i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod Pwyllgor neu Bwyllgor Apelau—
(a)y prif swyddog neu gynrychiolydd enwebedig y person hwnnw, a
(b)unrhyw bersonau eraill y mae’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau yn penderfynu arnynt.
11.—(1) Cyn penderfynu ar gais i achredu cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol rhaid i’r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth ysgrifenedig, y sylwadau a’r deunydd arall a gyflwynir iddo gan y ceisydd fel rhan o’r cais.
(2) Caiff y Pwyllgor ganiatáu i geisydd gyflwyno sylwadau ar lafar iddo.
(3) Caiff y Pwyllgor benderfynu—
(a)achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;
(b)peidio ag achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol; neu
(c)achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’r Pwyllgor yn ystyried eu bod yn briodol.
(4) Caiff y Pwyllgor achredu cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol o dan baragraff (3)(a) neu (c) am unrhyw gyfnod y mae’n ystyried ei fod yn briodol ond ni chaiff fod yn llai na blwyddyn na mwy na 5 mlynedd.
(5) Caiff y Pwyllgor—
(a)gofyn i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth arall (“yr wybodaeth ychwanegol”) y mae’n ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu ar y cais; a
(b)gohirio ei benderfyniad ar y cais hyd nes y darperir yr wybodaeth ychwanegol.
(6) Rhaid i’r Pwyllgor roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd o’i benderfyniad o dan baragraff (3) o fewn 15 niwrnod gwaith i’r penderfyniad hwnnw.
(7) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (6) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y rhesymau dros y penderfyniad ac, os ydynt yn gymwys, y meini prawf achredu nad yw’r ceisydd wedi eu bodloni,
(b)bod hawl gan y ceisydd i apelio yn erbyn y penderfyniad,
(c)y person y mae rhaid i’r ceisydd roi unrhyw hysbysiad o apêl iddo,
(d)bod rhaid i unrhyw hysbysiad o apêl gynnwys y sail dros yr apêl, ac
(e)y dyddiad olaf y caniateir i apêl gael ei gwneud.
(8) Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 15.
12.—(1) Ni chaiff y Pwyllgor benderfynu tynnu achrediad cwrs neu raglen astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ôl ond yn unol â’r meini prawf achredu a bennir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd.
(2) Rhaid i’r Pwyllgor roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr o’i benderfyniad o dan baragraff (1) o fewn 15 niwrnod gwaith i’r penderfyniad hwnnw.
(3) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (2) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y rhesymau dros y penderfyniad ac yn benodol y meini prawf achredu nad yw’r darparwr bellach yn eu bodloni,
(b)bod hawl gan y darparwr i apelio yn erbyn y penderfyniad,
(c)y person y mae rhaid i’r darparwr roi unrhyw hysbysiad o apêl iddo,
(d)bod rhaid i unrhyw hysbysiad o apêl gynnwys y sail dros yr apêl, ac
(e)y dyddiad olaf y caniateir i apêl gael ei gwneud.
(4) Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 15.
13.—(1) Cyn penderfynu ar apêl yn erbyn penderfyniad o’r Pwyllgor o dan reoliadau 11 neu 12, rhaid i’r Pwyllgor Apelau ystyried yr holl dystiolaeth ysgrifenedig, y sylwadau a’r deunydd arall a gyflwynir iddo gan y ceisydd fel rhan o’r apêl.
(2) Os yw’r Pwyllgor Apelau yn penderfynu caniatáu’r apêl rhaid iddo atgyfeirio’r mater yn ôl i’r Pwyllgor i ailystyried y cais.
(3) Ni chaniateir unrhyw apelau pellach i’r Pwyllgor Apelau—
(a)os yw’r Pwyllgor Apelau yn penderfynu gwrthod yr apêl; neu
(b)os yw’r Pwyllgor yn penderfynu peidio ag achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ar ôl iddo ailystyried y cais yn unol â pharagraff (2).
(4) Ni chaiff unrhyw berson a fu’n aelod o’r Pwyllgor a ystyriodd y cais achredu sy’n destun yr apêl fod yn aelod o’r Pwyllgor i ailystyried y cais.
(5) Rhaid i’r Pwyllgor Apelau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd o’i benderfyniad o fewn 20 niwrnod gwaith i’r penderfyniad hwnnw.
(6) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (5) nodi’r rhesymau dros y penderfyniad.
(7) Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 15.
14.—(1) Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth y gwêl yn addas o ran gweithdrefn y Pwyllgor a’r Pwyllgor Apelau.
(2) Nid yw trafodion Pwyllgor neu Bwyllgor Apelau yn cael eu hannilysu gan y canlynol—
(a)unrhyw swydd wag ymhlith eu haelodau; neu
(b)unrhyw ddiffygion o ran penodi unrhyw aelod o’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau.
(3) Y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o’r fath yw 3.
(4) Mae pob cwestiwn sydd i gael ei benderfynu mewn cyfarfod o’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau i gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau aelodau’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau (fel y bo’n briodol) sy’n bresennol ac sy’n pleidleisio ar y cwestiwn.
(5) Pan fo’r pleidleisiau yn gyfartal, mae gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd y Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
15.—(1) Caniateir cyflwyno hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson (“P”) o dan y Rheoliadau hyn drwy—
(a)ei ddanfon at P yn bersonol;
(b)y post i’r cyfeiriad a roddir i’r Cyngor gan P; neu
(c)post electronig, pan fo P yn gofyn am hynny.
(2) Bernir bod hysbysiad a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwn wedi ei gyflwyno—
(a)yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a) ar y diwrnod y cafodd ei ddanfon;
(b)yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(b) ar y diwrnod gwaith nesaf; ac
(c)yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(c) ar y diwrnod y cafodd ei anfon.