RHAN 3SEFYDLU PWYLLGORAU, EU HAELODAETH A’U SWYDDOGAETHAU

Cymhwystra ar gyfer penodiadau

9.—(1Mae aelodau’r Pwyllgor a’r Pwyllgor Apelau i gael eu penodi o blith personau—

(a)sydd ar hyn o bryd yn gweithio, neu a fu’n gweithio o fewn y 2 flynedd ddiwethaf, ym maes darparu addysg;

(b)sydd â phrofiad o reoli ysgolion neu sefydliadau addysg bellach;

(c)sydd â phrofiad o weithio mewn awdurdodau lleol;

(d)sydd â phrofiad o gyflenwi neu ddarparu hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;

(e)sydd wedi eu cofrestru yng nghategori athro neu athrawes ysgol yn y Gofrestr(1);

(f)unrhyw bersonau eraill y mae’r Cyngor yn ystyried eu bod yn briodol gan roi sylw i’w harbenigedd a’u profiad.

(2Nid yw unrhyw berson yn gymwys i gael ei benodi i’r Pwyllgor neu i’r Pwyllgor Apelau—

(a)pan fo’r person wedi ei wahardd rhag cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2);

(b)pan fo’r person wedi ei wahardd rhag addysgu yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan adran 142(1)(a) o Ddeddf 2002(3);

(c)pan fo’r person wedi ei wahardd rhag cael ei gyflogi fel athro neu athrawes yn rhinwedd gorchymyn gwahardd o dan adran 141B o Ddeddf 2002;

(d)pan fo gorchymyn disgyblu wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person o dan Atodlen 2 i Ddeddf 1998 a bod y person yn dod yn anghymwys i gael ei gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998(4) yn rhinwedd y gorchymyn disgyblu hwnnw;

(e)pan fo gorchymyn disgyblu wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person o dan adran 26 o Ddeddf 2014 a bod y person yn dod yn anghymwys i gael ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn rhinwedd y gorchymyn disgyblu hwn;

(f)pan fo’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn unrhyw ysgol yn rhinwedd gorchymyn sydd wedi ei wneud—

(i)gan Dribiwnlys Ysgolion Annibynnol o dan adran 470 o Ddeddf 1996(5), neu

(ii)gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 471 o Ddeddf 1996(6); neu

(g)pan fo’r person yn anghymwys i gael ei gofrestru fel athro neu athrawes, neu wedi ei anghymhwyso rhag bod yn athro neu athrawes mewn unrhyw ysgol neu sefydliad addysg bellach mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.

(1)

I gael y diffiniad o “Cofrestr” gweler adran 41 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.

(3)

2002 p. 32. Diddymwyd adran 142(1)(a) gan Atodlen 10 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

(4)

Diddymwyd adran 3 ac Atodlen 2 gan Dabl 2 ym mharagraff 3 o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.

(5)

Diddymwyd gan adran 215(2) o Ddeddf Addysg 2002 a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi.

(6)

Diddymwyd gan adran 215(2) o Ddeddf Addysg 2002 a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi.