- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Gwnaed
15 Chwefror 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Chwefror 2017
Yn dod i rym
1 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol yn unol ag adran 9(5) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2017.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.
2.—(1) Mae Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 3 mewnosoder—
3.—(1) Rhaid i awdurdod tân ac achub ddarparu yn ei ardal, i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny, ar gyfer—
(a)achub pobl, neu eu diogelu rhag niwed difrifol os digwydd argyfwng sy’n ymwneud â llifogydd; a
(b)achub pobl os digwydd argyfwng sy’n ymwneud â dyfroedd mewndirol.
(2) Mae’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i argyfwng sy’n dod o fewn adran 58(a) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
(3) Yn yr erthygl hon—
ystyr “dyfroedd mewndirol” (“inland water”) yw—
afonydd, nentydd a chamlesi; a
llynnoedd, cronfeydd dŵr a chwareli llawn dŵr.”
ystyr “llifogydd” (“flooding”) yw unrhyw achos pan fo tir nad yw o dan ddŵr fel arfer yn cael ei orchuddio â dŵr.”
(3) Yn erthygl 4—
(a)yn y geiriau cyflwyno, yn lle “neu 3” rhodder “, 3 neu 3A”;
(b)ym mharagraff (a) ar ôl “gwasanaethau” mewnosoder “, y cyfarpar”.
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
15 Chwefror 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae swyddogaethau craidd awdurdodau tân ac achub wedi eu nodi yn adrannau 6 i 8 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (“y Ddeddf”). Y swyddogaethau sy’n gysylltiedig â diogelwch rhag tân, diffodd tân a damweiniau traffig ffyrdd yw’r rhain. Mae adran 9 o’r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu drwy orchymyn swyddogaethau craidd eraill sy’n ymwneud ag argyfyngau y mae’n rhaid i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru ddarparu ar eu cyfer. Mae “emergency” wedi ei ddiffinio yn adran 58 o’r Ddeddf.
Pennodd Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3193 (Cy. 280)) (“Gorchymyn 2007”) swyddogaethau mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru mewn cysylltiad ag argyfyngau sy’n ymwneud â halogion cemegol, biolegol neu ymbelydrol; argyfyngau sy’n ymwneud ag adeiledd yn cwympo; ac argyfyngau sy’n ymwneud â threnau, tramiau neu awyrennau.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2007. Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn yn pennu swyddogaethau mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru mewn cysylltiad ag argyfyngau sy’n ymwneud â llifogydd a dyfroedd mewndirol. Mae erthygl 2(3) yn estyn erthygl 4(a) o Orchymyn 2007, sy’n pennu’r pethau y mae’n rhaid i awdurdodau tân ac achub eu gwneud wrth ddarparu ar gyfer argyfyngau a nodir yng Ngorchymyn 2007. Yn y dyfodol, fel rhan o ddarparu ar gyfer yr argyfyngau hynny, bydd yn ofynnol i awdurdodau tân ac achub sicrhau y darperir cyfarpar.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Gwasanaethau Tân, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ, neu drwy ffonio 0300 0628226.
Roedd pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 9, o ran Cymru, yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 62. Mae’r pŵer hwnnw bellach wedi ei freinio yng Ngweinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: