2017 Rhif 168 (Cy. 49)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru

Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 20041 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy2, ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol yn unol ag adran 9(5) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) (Diwygio) 2017.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2017.

3

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

Diwygio’r Gorchymyn2

1

Mae Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 20073 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ar ôl erthygl 3 mewnosoder—

Achub a diogelu yn achos argyfyngau sy’n ymwneud â llifogydd a dyfroedd mewndirol3

1

Rhaid i awdurdod tân ac achub ddarparu yn ei ardal, i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny, ar gyfer—

a

achub pobl, neu eu diogelu rhag niwed difrifol os digwydd argyfwng sy’n ymwneud â llifogydd; a

b

achub pobl os digwydd argyfwng sy’n ymwneud â dyfroedd mewndirol.

2

Mae’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i argyfwng sy’n dod o fewn adran 58(a) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

3

Yn yr erthygl hon—

  • ystyr “dyfroedd mewndirol” (“inland water”) yw—

    1. a

      afonydd, nentydd a chamlesi; a

    2. b

      llynnoedd, cronfeydd dŵr a chwareli llawn dŵr.”

    ystyr “llifogydd” (“flooding”) yw unrhyw achos pan fo tir nad yw o dan ddŵr fel arfer yn cael ei orchuddio â dŵr.

3

Yn erthygl 4—

a

yn y geiriau cyflwyno, yn lle “neu 3” rhodder “, 3 neu 3A”;

b

ym mharagraff (a) ar ôl “gwasanaethau” mewnosoder “, y cyfarpar”.

Carl SargeantYsgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae swyddogaethau craidd awdurdodau tân ac achub wedi eu nodi yn adrannau 6 i 8 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (“y Ddeddf”). Y swyddogaethau sy’n gysylltiedig â diogelwch rhag tân, diffodd tân a damweiniau traffig ffyrdd yw’r rhain. Mae adran 9 o’r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu drwy orchymyn swyddogaethau craidd eraill sy’n ymwneud ag argyfyngau y mae’n rhaid i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru ddarparu ar eu cyfer. Mae “emergency” wedi ei ddiffinio yn adran 58 o’r Ddeddf.

Pennodd Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3193 (Cy. 280)) (“Gorchymyn 2007”) swyddogaethau mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru mewn cysylltiad ag argyfyngau sy’n ymwneud â halogion cemegol, biolegol neu ymbelydrol; argyfyngau sy’n ymwneud ag adeiledd yn cwympo; ac argyfyngau sy’n ymwneud â threnau, tramiau neu awyrennau.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2007. Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn yn pennu swyddogaethau mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru mewn cysylltiad ag argyfyngau sy’n ymwneud â llifogydd a dyfroedd mewndirol. Mae erthygl 2(3) yn estyn erthygl 4(a) o Orchymyn 2007, sy’n pennu’r pethau y mae’n rhaid i awdurdodau tân ac achub eu gwneud wrth ddarparu ar gyfer argyfyngau a nodir yng Ngorchymyn 2007. Yn y dyfodol, fel rhan o ddarparu ar gyfer yr argyfyngau hynny, bydd yn ofynnol i awdurdodau tân ac achub sicrhau y darperir cyfarpar.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Gwasanaethau Tân, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ, neu drwy ffonio 0300 0628226.