RHAN 5Canslo Cofrestriad
Canslo cofrestriad14
1
At ddibenion adran 14(1)(d) o’r Ddeddf, mae paragraff (2) yn pennu ar ba sail y caiff awdurdod cofrestru ganslo cofrestriad person mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat.
2
Y sail y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw bod y practis deintyddol preifat wedi peidio â bod yn hyfyw yn ariannol neu’n debygol o beidio â bod yn hyfyw yn ariannol ar unrhyw adeg o fewn y 6 mis nesaf.
Cais i ganslo cofrestriad15
1
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cais i ganslo” (“application for cancellation”) yw cais gan y person cofrestredig o dan adran 15(1)(b) o’r Ddeddf i gofrestriad y person hwnnw gael ei ganslo;
ystyr “dyddiad effeithiol arfaethedig” (“proposed effective date”) yw’r dyddiad y mae’r person cofrestredig yn gofyn amdano fel y dyddiad y mae’r canslo y gwneir cais amdano i gael effaith; ac
ystyr “hysbysiad o gais i ganslo” (“notice of application for cancellation”) yw hysbysiad gan y person cofrestredig sy’n datgan bod y person cofrestredig wedi gwneud cais i ganslo neu’n bwriadu gwneud cais o’r fath.
2
Rhaid i gais i ganslo—
a
bod yn ysgrifenedig ar ffurf a gymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru;
b
cael ei anfon neu ei ddanfon i’r awdurdod cofrestru heb fod yn llai na 3 mis cyn y dyddiad effeithiol arfaethedig neu unrhyw gyfnod byrrach (os oes un) cyn y dyddiad hwnnw y cytunir arno â’r awdurdod cofrestru; ac
c
cael ei anfon gyda’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (4).
3
Os yw’r person cofrestredig yn gwneud cais i ganslo, rhaid i’r person cofrestredig, heb fod yn fwy na saith niwrnod ar ôl hynny, roi hysbysiad o’r cais i ganslo i bob un o’r personau a bennir ym mharagraff (4)(d), ac eithrio person y rhoddodd y person cofrestredig hysbysiad o’r fath iddo o fewn 3 mis cyn gwneud y cais i ganslo.
4
Mae’r wybodaeth a ganlyn wedi ei phennu—
a
y dyddiad effeithiol arfaethedig;
b
datganiad ynghylch yr wybodaeth a ddarperir gan y person cofrestredig i gleifion ynghylch practisau deintyddol tebyg yn eu hardal;
c
rhesymau’r person cofrestredig dros wneud y cais i ganslo;
d
manylion unrhyw hysbysiad o gais i ganslo a roddwyd i unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn;
i
cleifion; ac
ii
personau yr ymddengys i’r person cofrestredig eu bod yn gynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau;
e
pan na fo’r person cofrestredig wedi rhoi’r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (d), datganiad ynghylch a oedd unrhyw amgylchiadau a ataliodd y person cofrestredig rhag rhoi’r hysbysiad hwnnw cyn y dyddiad y gwnaeth y person cofrestredig gais i ganslo neu a’i gwnaeth yn anymarferol iddo ei roi.