YR ATODLENNI

ATODLEN 2Dogfennau sydd i Gael eu Cyflenwi ar Gais i Gofrestru fel Person sy’n Cynnal Practis Deintyddol Preifat

Rheoliadau 4 ac 8

Dogfennau sy’n ymwneud â’r ceisydd

1

Tystysgrif geni’r person cyfrifol.

2

Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall sy’n ymwneud â chymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person cyfrifol, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat.

3

Datganiad gan y person cyfrifol ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.

4

Mewn perthynas â’r person cyfrifol, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 199716 sy’n cynnwys, fel y bo’n gymwys, wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (fel y diffinnir “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (fel y diffinnir “suitability information relating to children” yn adran 113BA o’r Ddeddf honno) neu’r ddwy, a bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â’r wybodaeth addasrwydd.

5

Pan fo’r ceisydd yn gorff corfforaethol, copi o bob un o’i ddau adroddiad blynyddol diwethaf.

6

Pan fo’r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r cwmni daliannol a dau adroddiad blynyddol diwethaf (os oes rhai) y cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol hwnnw.

7

Cyfrifon blynyddol diwethaf (os oes rhai) y practis deintyddol preifat.

8

Tystysgrif yswiriant ar gyfer y ceisydd mewn cysylltiad ag atebolrwydd a all ddod i ran y ceisydd mewn perthynas â’r practis deintyddol preifat mewn cysylltiad â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.

Tystysgrifau cofnodion troseddol mewn cysylltiad â staff9

1

Datganiad sy’n cadarnhau—

a

bod y dogfennau a bennir yn is-baragraff (2) wedi eu dyroddi—

i

yn achos unrhyw geisydd, i bob person, ac eithrio’r ceisydd, sy’n gweithio at ddibenion y practis deintyddol preifat neu y bwriedir iddo weithio at ddibenion y practis deintyddol preifat; a

ii

pan fo’r ceisydd yn sefydliad, i’r unigolyn cyfrifol; a

b

y bydd y ceisydd yn trefnu bod y dogfennau ar gael i’r awdurdod cofrestru edrych arnynt os yw hynny’n ofynnol gan yr awdurdod cofrestru.

2

Mae’r dogfennau a ganlyn wedi eu pennu—

a

pan fo’r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A(a) o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy’n cynnwys, fel y bo’n gymwys, wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (fel y diffinnir “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (fel y diffinnir “suitability information relating to children” yn adran 113BA o’r Ddeddf honno) neu’r ddwy, a bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â’r wybodaeth addasrwydd; neu

b

mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â hi.