RHAN 4Gofynion Ychwanegol

Dadebru

31.—(1Rhaid i’r person cofrestredig lunio a gweithredu datganiad ysgrifenedig, ar sail canllawiau cenedlaethol cyfredol ar gyfer dadebru, o’r polisïau sydd i gael eu cymhwyso a’r gweithdrefnau sydd i gael eu dilyn yn y practis deintyddol preifat mewn perthynas â dadebru cleifion a rhaid iddo adolygu’r datganiad hwnnw bob blwyddyn.

(2Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)ar gael ar gais i bob claf; a

(b)yn cael eu cyfathrebu i, a’u deall gan, unrhyw berson sy’n gweithio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat a all fod yn rhan o benderfyniadau am ddadebru claf.

(3Rhaid i’r person cofrestredig hefyd—

(a)sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat a all fod yn rhan o benderfyniadau am ddadebru claf, neu a all fod yn rhan o ddadebru cleifion, wedi ei hyfforddi’n addas; a

(b)sicrhau bod yr holl gyfarpar a meddyginiaethau y mae eu hangen i ddadebru cleifion ar gael ar y fangre a ddefnyddir i gynnal y practis deintyddol preifat.

Defnyddio cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4

32.—(1Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw gynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4(1) ei ddefnyddio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat oni bai bod gan y person cofrestredig brotocol proffesiynol wedi ei lunio gan ddeintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol hyfforddedig a phrofiadol y mae triniaeth sy’n defnyddio cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 i gael ei darparu yn unol ag ef, ac y darperir y driniaeth yn unol â’r protocol hwnnw.

(2Rhaid i’r person cofrestredig gynnal cofrestr yn y practis deintyddol preifat o bob achlysur pan fo cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 wedi ei ddefnyddio, sy’n cynnwys—

(a)enw’r claf y defnyddiwyd y cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 mewn cysylltiad â’i driniaeth;

(b)enw’r person a ddefnyddiodd y cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4; ac

(c)ei ddyddiad defnyddio.

(3Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau nad yw cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 o’r fath ond yn cael ei ddefnyddio yn y practis deintyddol preifat gan berson sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant priodol ac sydd wedi dangos dealltwriaeth—

(a)o sut i ddefnyddio’r cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 yn gywir;

(b)o’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4;

(c)o’i effeithiau biolegol ac amgylcheddol;

(d)o’r rhagofalon sydd i gael eu cymryd cyn defnyddio cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 ac wrth ei ddefnyddio; ac

(e)o’r camau sydd i gael eu cymryd os digwydd damwain, argyfwng neu achlysur andwyol arall sy’n ymwneud â chynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4.

(1)

I gael ystyr cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 gweler Rhan 1 Safon Prydeinig EN 60825 – 1 (Diogelwch ymbelydredd cynhyrchion a systemau laser). Gellir cael copïiau oddi wrth: BS1 Customer Services, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL.