RHAN 3Rhedeg Practis Deintyddol Preifat

PENNOD 1Ansawdd y Gwasanaethau a Ddarperir

Addasrwydd gweithwyr18.

(1)

Ni chaiff person cofrestredig—

(a)

cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio mewn, neu at ddibenion, practis deintyddol preifat onid yw’r person hwnnw yn addas i wneud hynny; neu

(b)

caniatáu i unrhyw berson arall weithio mewn, neu at ddibenion, practis deintyddol preifat onid yw’r person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2)

At ddibenion paragraff (1) nid yw person yn addas i weithio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat—

(a)

onid yw’r person wedi ei gofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny;

(b)

onid yw’r person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;

(c)

onid oes gan y person y cymwysterau, y sgiliau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae’r person hwnnw i’w wneud;

(d)

onid yw’r person oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol (os oes rhai) gael eu gwneud, yn gallu cyflawni tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith hwnnw yn briodol; ac

(e)

onid oes wybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â’r person mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.

(3)

Wrth asesu cymeriad unigolyn at ddibenion paragraff (2)(b), rhaid i’r materion a ystyrir gynnwys y rhai a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 3.