30.—(1) Os oes mwy nag un person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i unrhyw berson cofrestredig sy’n goroesi roi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny.
(2) Os dim ond un person sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat, a bod y person yn marw, rhaid i gynrychiolwyr personol y person—
(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny; a
(b)rhoi hysbysiad i’r awdurdod hwnnw o’u bwriadau ynglŷn â rhedeg y practis deintyddol preifat yn y dyfodol, o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth.
(3) Caiff cynrychiolwyr personol y darparwr cofrestredig ymadawedig gynnal y practis deintyddol preifat heb gael eu cofrestru mewn cysylltiad ag ef—
(a)am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau; a
(b)am unrhyw gyfnod pellach a benderfynir gan yr awdurdod cofrestru yn unol â pharagraff (4).
(4) Caiff yr awdurdod cofrestru estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(a) am unrhyw gyfnod pellach, nad yw’n hwy na chwe mis, a benderfynir gan yr awdurdod cofrestru, a rhaid iddo hysbysu’r cynrychiolwyr personol am unrhyw benderfyniad o’r fath yn ysgrifenedig.
(5) Rhaid i’r cynrychiolwyr personol benodi rheolwr i fod â gofal llawnamser o ddydd i ddydd am y practis deintyddol preifat yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant, yn unol â pharagraff (3), yn cynnal y practis deintyddol preifat heb gael eu cofrestru mewn cysylltiad ag ef.
(6) Mae darpariaethau rheoliad 11 yn gymwys i reolwr a benodir yn unol â pharagraff (5).
(7) Pan fo’r awdurdod cofrestru yn cael cais i gofrestru fel darparwr mewn cysylltiad â’r practis deintyddol preifat y cyfeirir ato ym mharagraff (1), caniateir estyn y chwe mis y cyfeirir ato ym mharagraff (4) am gyfnod nad yw’n hwy na chwe mis fel y’i penderfynir gan yr awdurdod cofrestru.