2017 Rhif 280 (Cy. 74)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Trwyddedu (morol), Cymru
Llygredd Morol, Cymru

Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 67(2), (3), 72A(4), 107A(3), 107B(5) a 316(1)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 20091, mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b)2 o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.