Offerynnau Statudol Cymru
2017 Rhif 309 (Cy. 80) (C. 29)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 3, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2017
Gwnaed
7 Mawrth 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 188(1) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 3, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Y diwrnod penodedig
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 3 Ebrill 2017—
(a)Rhan 2 (sy’n cynnwys adrannau 65 i 66 ac sy’n ymwneud â’r trosolwg o Rannau 3 i 8 a’u dehongli);
(b)i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, Rhan 3 (sy’n cynnwys adrannau 67 i 78 ac sy’n ymwneud â Gofal Cymdeithasol Cymru) ac Atodlen 2(2);
(c)Rhan 4 (sy’n cynnwys adrannau 79 i 111 ac sy’n ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol);
(d)Rhan 5 (sy’n cynnwys adrannau 112 i 116 ac sy’n ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol, safonau ymddygiad, addysg etc.);
(e)Rhan 6 (sy’n cynnwys adrannau 117 i 164 ac sy’n ymwneud ag addasrwydd gweithwyr gofal cymdeithasol i ymarfer), ac eithrio is-adran (5) o adran 160 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu);
(f)Rhan 7 (sy’n cynnwys adrannau 165 i 173 ac sy’n ymwneud â phersonau anghofrestredig a gorchmynion sy’n gwahardd gwaith mewn gofal cymdeithasol);
(g)Rhan 8 (sy’n cynnwys adrannau 174 i 175 ac sy’n ymwneud â Gofal Cymdeithasol Cymru a’r ddyletswydd i sefydlu paneli);
(h)Rhan 9 (sy’n cynnwys adrannau 176 i 182 ac sy’n ymwneud â chydweithredu a chydweithio gan gyrff rheoleiddiol);
(i)Rhan 10 (sy’n cynnwys adrannau 183 i 184 ac sy’n ymwneud â darpariaethau amrywiol a chyffredinol);
(j)adran 185 ac Atodlen 3 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y maent yn ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 3 (Gofal Cymdeithasol Cymru).
Arbedion a darpariaethau trosiannol
3. Mae’r Atodlen (sy’n cynnwys arbedion a darpariaethau trosiannol) yn cael effaith o 3 Ebrill 2017.
4. Nid yw’r ddarpariaeth a wneir gan yr Atodlen yn effeithio ar weithrediad adrannau 16 a 17 o Ddeddf Dehongli 1978(3) fel y’i darllenir gydag adran 23 o’r Ddeddf honno.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2017
Erthygl 3
YR ATODLENArbedion a darpariaethau trosiannol
Dehongli
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “CGC” (“the CCW”) yw Cyngor Gofal Cymru(4);
ystyr “cofrestr CGC” (“the CCW register”) yw’r gofrestr a gynhelir gan CGC o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “cofrestr GCC” (“the SCW register”) yw’r gofrestr a gynhelir gan GCC o dan adran 80 o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ystyr “GCC” (“SCW”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru(5);
mae i “gweithiwr gofal cymdeithasol” (“social care worker”) yr ystyr a roddir yn adran 79 o’r Ddeddf;
mae i “person a drosglwyddir” (“transferred person”) yr ystyr a roddir gan baragraff 3.
Cyffredinol
2. Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Atodlen hon, ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae unrhyw beth a wneir gan CGC, neu mewn perthynas ag ef, i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn statudol (pan fo’n briodol), i gael ei drin fel pe bai wedi ei wneud gan GCC neu mewn perthynas ag ef.
Trosglwyddo cofrestr CGC
3.—(1) Mae pob person sydd yn union cyn 3 Ebrill 2017 wedi ei gofrestru ar un o rannau cofrestr CGC(6) a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei gofrestru, ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw, yn y rhan gyfatebol o gofrestr GCC(7).
(2) Y rhannau o’r gofrestr y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—
(a)y brif ran;
(b)y rhan ychwanegol;
(c)y rhan ymwelwyr Ewropeaidd.
(3) Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo person—
(a)wedi ei gofrestru yn y rhan ychwanegol o gofrestr CGC, a
(b)yn dod o fewn y naill neu’r llall o’r disgrifiadau a ganlyn—
(i)gweithiwr cartref gofal i oedolion, neu
(ii)gweithiwr gofal cartref.
(4) Mae person y mae ei enw yn ymddangos ym mhrif ran cofrestr CGC, yn y rhan ychwanegol ohoni, neu yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd ohoni, ac y mae ei gofrestriad wedi ei atal dros dro, yn cael ei ystyried at ddibenion is-baragraffau (1) i (3) fel pe bai wedi ei gofrestru yn y rhan honno o’r gofrestr, ond mae paragraff 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y personau hynny.
(5) Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at gofnod yn y gofrestr sydd wedi ei gynnwys ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i gael eu trin ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017 fel pe baent yn cynnwys cofnodion blaenorol yng nghofrestr CGC sy’n ymwneud â phersonau a drosglwyddir.
(6) Cyfeirir at berson, sy’n dod yn gofrestredig yng nghofrestr GCC yn rhinwedd y paragraff hwn, yn yr Atodlen hon yn “person a drosglwyddir”.
Cofrestriad sy’n ddarostyngedig i amodau
4.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os oedd cofrestriad person a drosglwyddir yng nghofrestr CGC, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yn ddarostyngedig i amodau a osodir—
(a)wrth ganiatáu cais y person a drosglwyddir i CGC ar gyfer cofrestru neu adnewyddu cofrestriad gan CGC, y Pwyllgor Cofrestru(8) neu’r Pwyllgor Adfer(9), neu
(b)yn ystod achos, neu ar ddiwedd achos, mewn perthynas ag ymddygiad person gan y Pwyllgor Ymchwilio neu’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer.
(2) Per bai’r amodau wedi parhau mewn grym ar 3 Ebrill 2017, mae cofrestriad y person hwnnw yng nghofrestr GCC yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r amodau hynny fel pe baent wedi eu gosod yn unol â’r un telerau ac ar gyfer yr un hyd mewn gorchymyn cofrestru amodol a wneir gan banel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer(10) (sydd i gael ei ystyried a chanddo’r pŵer i osod yr amodau hynny).
Cofrestriad sy’n ddarostyngedig i gerydd
5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, oedd cofnod o gerydd(11) ar gofnod person a drosglwyddir yng nghofrestr CGC, a
(b)pe bai’r cofnod o’r cerydd wedi parhau ar 3 Ebrill 2017.
(2) Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae cofrestriad y person hwnnw yng nghofrestr GCC i gael ei drin fel pe bai’n ddarostyngedig i rybudd o ran ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol, yn unol â’r un telerau ac ar gyfer yr un hyd â’r cerydd, a ddyroddir gan GCC neu banel addasrwydd i ymarfer(12) (sydd i gael ei ystyried a chanddo’r pŵer i ddyroddi’r rhybudd hwnnw).
Cofrestriad sydd wedi ei atal dros dro
6.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os oedd cofrestriad person a drosglwyddir yng nghofrestr CGC yn union cyn 3 Ebrill 2017 wedi ei atal dros dro yn rhinwedd gorchymyn atal dros dro a osodir gan Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer CGC neu orchymyn atal dros dro interim a osodir gan ei Bwyllgor Ymchwilio, a
(b)pe bai’r ataliad dros dro wedi parhau ar 3 Ebrill 2017.
(2) Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae cofrestriad y person yng nghofrestr GCC i gael ei drin fel pe bai wedi ei atal dros dro yn unol â’r un telerau ac ar gyfer yr un hyd drwy orchymyn panel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer GCC (sydd i gael ei ystyried a chanddo’r pŵer i wneud y gorchymyn hwnnw).
(3) Yn unol â hynny, a chyhyd ag y mae’r ataliad dros dro yn cael ei drin fel pe bai’n parhau, bydd adran 163 o’r Ddeddf yn gymwys i gofrestriad y person yng nghofrestr GCC(13).
Gorchmynion gwahardd
7.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, oedd person a drosglwyddir yn ddarostyngedig i orchymyn gwahardd a osodir gan Bwyllgor Adfer CGC(14).
(2) Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae hawl y person i wneud cais i gael ei adfer i gofrestr GCC(15) i gael ei thrin fel pe bai wedi ei atal am gyfnod amhenodol gan gyfarwyddyd a wneir, ar yr un dyddiad â’r gorchymyn gwahardd, gan banel apelau cofrestru i GCC o dan adran 98(4) o’r Ddeddf (achosion adfer)(16).
Achosion presennol CGC
8.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, mae person a drosglwyddir—
(a)yn ddarostyngedig i achos gerbron Pwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer CGC, neu
(b)yn berson y mae CGC wedi cael gwybodaeth amdano a allai arwain at achos o’r fath.
(2) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae achosion o’r fath neu ddarpar achosion o’r fath i gael eu diweddu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014(17).
Ceisiadau ar gyfer cofrestru neu adnewyddu sydd heb eu penderfynu
9.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yw cais wedi ei wneud i CGC ond nad yw wedi ei benderfynu ganddo, ar gyfer—
(a)cofrestru ym mhrif ran cofrestr CGC, yn y rhan ychwanegol ohoni neu yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd ohoni, neu
(b)adnewyddu cofrestriad o’r fath.
(2) Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae cais o’r fath i gael ei drin fel pe bai wedi ei wneud i GCC ar gyfer cofrestru yn y rhan gyfatebol o gofrestr GCC, neu ar gyfer adnewyddu cofrestriad o’r fath.
(3) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yw cais yn ddarostyngedig i achos gerbron Pwyllgor Cofrestru CGC, mae’r achos i gael ei ddiweddu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Cofrestru) 2015(b)(18).
(4) Ond nid yw is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys—
(a)i gais ar gyfer cofrestru fel gweithiwr cartref gofal i oedolion neu weithiwr gofal cartref yn y rhan ychwanegol o gofrestr CGC,
(b)i adnewyddu cais o’r fath, neu
(c)i achos mewn cysylltiad â chais o’r fath(19).
Ceisiadau i adfer
10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 7 ac is-baragraff (2), caiff person yr oedd gorchymyn dileu wedi ei wneud mewn perthynas ag ef yn unol â Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Ymddygiad) 2011 neu Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014 cyn 3 Ebrill 2017, ac nad yw erbyn y diwrnod hwnnw wedi ei adfer i gofrestr CGC, wneud cais i GCC i gael ei adfer i gofrestr GCC.
(2) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, mae cais o’r fath i gael ei benderfynu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014.
(3) Mae cais a wneir cyn 3 Ebrill 2017 i adfer i brif ran cofrestr CGC, i’r rhan ychwanegol ohoni neu i’r rhan ymwelwyr Ewropeaidd ohoni i gael ei drin, ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw, fel pe bai wedi ei wneud i GCC i adfer i’r rhan gyfatebol o gofrestr GCC.
(4) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yw achos gerbron Pwyllgor Adfer CGC wedi dechrau yn unol â chais o’r fath, mae’r achos i gael ei ddiweddu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014.
(5) Ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)i gais a wneir gan weithiwr cartref gofal i oedolion neu weithiwr gofal cartref i gael ei adfer i’r rhan ychwanegol o’r gofrestr, neu
(b)i achos mewn cysylltiad â chais o’r fath.
Apelau
11.—(1) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, mae adran 68 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (apelau i’r Tribiwnlys) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â phenderfyniad CGC a wneir cyn 3 Ebrill 2017 mewn perthynas â pherson a drosglwyddir neu berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn dileu.
(2) Ond ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017—
(a)mae ymatebydd i apêl a wneir neu a barheir yn rhinwedd is-baragraff (1) i gael ei drin fel GCC yn hytrach na CGC, a
(b)mae GCC (neu banel a sefydlir o dan adran 174 o’r Ddeddf) i gael ei drin—
(i)fel pe bai wedi gwneud y penderfyniad o dan sylw, a
(ii)fel pe bai ganddo’r pŵer i weithredu penderfyniad y Tribiwnlys (neu unrhyw benderfyniad a wneir ar apêl bellach gan y Tribiwnlys).
Cwestiynau sy’n ymwneud ag ymddygiad
12.—(1) Mae unrhyw gwestiwn o ran ymddygiad neu ymarfer, cyn 3 Ebrill 2017, person a drosglwyddir neu berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn dileu, i gael ei benderfynu ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw fel y byddai wedi ei benderfynu cyn y diwrnod hwnnw.
(2) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, mae cod ymarfer a gyhoeddir o dan adran 62 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a fyddai wedi bod yn gymwys yn union cyn 3 Ebrill 2017 mewn cysylltiad â’r ymddygiad neu’r ymarfer o dan sylw i barhau i fod yn gymwys ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw mewn cysylltiad â’r ymddygiad hwnnw neu’r ymarfer hwnnw.
Cymeradwyo safonau, cyrsiau, etc.
13.—(1) Mae’r safon ofynnol o hyfedredd yng ngwaith cymdeithasol perthnasol(20) a ddisgrifir yn union cyn 3 Ebrill 2017 mewn rheolau a wneir gan CGC o dan adran 63 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (cymeradwyo cyrsiau etc.) yn cael effaith ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw fel pe bai wedi ei sefydlu o dan adran 114 o’r Ddeddf (cymeradwyo cyrsiau etc.) fel y safon o hyfedredd sy’n ofynnol i berson gael ei dderbyn i gofrestr GCC.
(2) Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae’r canlynol i gael eu trin fel cymhwyster a gymeradwyir at ddibenion adran 84 o’r Ddeddf (“wedi ei gymhwyso’n briodol”)—
(a)cwblhau cwrs yn llwyddiannus mewn gwaith cymdeithasol perthnasol a oedd, yn union cyn 3 Ebrill 2017, wedi ei gymeradwyo gan CGC yn rhinwedd adran 63 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
(b)bodloni gofynion o ran hyfforddiant a osodir cyn 3 Ebrill 2017 yn rhinwedd adran 58(2)(a)(iii) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (sy’n ymwneud ag amod ar gyfer caniatáu cofrestriad o dan y Ddeddf honno fel gweithiwr cymdeithasol);
(c)bodloni gofynion o ran hyfforddiant a osodir cyn 3 Ebrill 2017 yn rhinwedd adran 58(2)(b) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (sy’n ymwneud â gofynion hyfforddiant ar gyfer caniatáu cofrestriad o dan y Ddeddf honno, ar gyfer personau ac eithrio gweithwyr cymdeithasol, fel gweithiwr gofal cymdeithasol).
(3) Mae is-baragraff (2)(a) hefyd yn gymwys i gyrsiau a oedd yn cael eu trin yn union cyn 3 Ebrill 2017 fel cyrsiau a gymeradwyir gan CGC yn rhinwedd erthygl 5(2)(a) o Orchymyn Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol (Cynllun Trosglwyddo) 2001(21) fel y mae’n gymwys i gyrsiau a gymeradwyir gan CGC yn rhinwedd adran 63 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
(4) Mae cyfnod addasu neu brawf tueddfryd y mae CGC yn ei gwneud yn ofynnol i geisydd ei wneud cyn 3 Ebrill 2017 yn rhinwedd adran 64(A1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (cymwysterau a geir y tu allan i ardal Cyngor Cymru, pan fo’r ceisydd yn berson esempt o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol)(22) i gael ei drin ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw yn ofynnol yn rhinwedd adran 85 o’r Ddeddf (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru).
(5) Mae cwblhau’n llwyddiannus hyfforddiant mewn gwaith cymdeithasol perthnasol a oedd, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yn cael ei gydnabod gan CGC fel bod o safon ddigonol ar gyfer cofrestru ym mhrif ran cofrestr CGC at ddibenion adran 64(2)(b)(i) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(23) (cymwysterau a geir y tu allan i ardal Cyngor Cymru) i gael ei drin ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017 fel cymhwyster y mae GCC wedi ei fodloni yn ei gylch at ddibenion adran 85(2)(b)(i) o’r Ddeddf.
(6) Mae cwblhau’n llwyddiannus hyfforddiant ychwanegol sy’n ofynnol cyn 3 Ebrill 2017 gan CGC o dan adran 64(2)(b)(ii) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (hyfforddiant ychwanegol sy’n ofynnol pan nad yw CGC wedi ei fodloni o ran safon hyfforddiant) i gael ei drin ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw fel hyfforddiant ychwanegol sy’n bodloni GCC at ddibenion adran 85(2)(b)(ii) o’r Ddeddf.
(7) Mae hyfforddiant pellach a oedd, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yn ofynnol gan CGC yn rhinwedd adran 65 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(24) (hyfforddiant ar ôl cofrestru) i gael ei drin ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw fel pe bai—
(a)yn ddatblygiad proffesiynol parhaus a bennir gan GCC yn rhinwedd adran 113(1) o’r Ddeddf (datblygiad proffesiynol parhaus), oni bai bod yr hyfforddiant yn ymwneud â gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd, neu
(b)yn gwrs a gymeradwyir gan GCC yn rhinwedd adran 114A o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (cymeradwyo cyrsiau: Cymru)(25), yn achos gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd.
(8) Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal GCC ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017 rhag arfer ei bwerau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag unrhyw safon, cymhwyster, cwrs, hyfforddiant neu ddatblygiad proffesiynol parhaus a grybwyllir yn y paragraff hwn.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
14.—(1) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, caiff Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) barhau i ymchwilio i gŵyn a wneir iddo mewn perthynas â CGC cyn 3 Ebrill 2017 o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005(26), ond fel pe bai’r gŵyn wedi ei gwneud mewn cysylltiad â GCC.
(2) Pan fo’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad yn unol â’r paragraff hwn, rhaid i’r Ombwdsmon anfon adroddiad o ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw at Weinidogion Cymru ac i GCC(27).
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r trydydd Gorchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae’n cychwyn (gydag eithriadau cyfyngedig) Rhannau 2 i 11 o’r Ddeddf ar 3 Ebrill 2017.
Sefydlwyd Cyngor Gofal Cymru (“CGC”) gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 at ddibenion hybu safonau ymddygiad ac ymarfer uchel ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol a hybu safonau uchel yn eu hyfforddiant.
Mae Rhannau 2 i 10 o’r Ddeddf yn ailenwi CGC yn Ofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”), yn ailddatgan ac yn addasu ei swyddogaethau presennol ac yn rhoi swyddogaethau ychwanegol.
Mae erthygl 2 yn cychwyn Rhannau 2 i 10 o’r Ddeddf (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym), ac eithrio is-adran (5) o adran 160 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu). Mae hefyd yn cychwyn Atodlen 2 (sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch GCC) ac adran 185 o’r Ddeddf ac Atodlen 3 iddi (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y maent yn ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 3 (Gofal Cymdeithasol Cymru).
Mae erthygl 3 yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n cael effaith o 3 Ebrill 2017, ac sy’n gwneud arbedion a darpariaethau trosiannol.
Mae paragraff 2 o’r Atodlen yn gwneud darpariaeth gyffredinol fel bod unrhyw beth a wneir gan CGC, neu mewn perthynas â rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn statudol gan CGC, pan fo’n briodol, i gael ei drin ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017 fel pe bai wedi ei wneud gan GCC neu mewn perthynas ag ef.
Mae paragraff 3 o’r Atodlen yn darparu ar gyfer trosglwyddo, ar 3 Ebrill 2017, y mwyafrif o’r cofnodion ar y gofrestr a gynhelir gan CGC (yn unol ag adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000) i rannau cyfatebol o’r gofrestr a gynhelir gan GCC (o dan adran 80 o’r Ddeddf). Gallai gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr gofal cartref wneud cais ar gyfer cofrestriad gwirfoddol yn y rhan ychwanegol o’r gofrestr a gynhelir gan CGC. Nid yw darpariaeth wedi ei gwneud ar gyfer cofrestriad gwirfoddol yn y gofrestr a gynhelir gan GCC a bydd unrhyw gofnodion o’r fath ar gofrestr CGC yn darfod ar 3 Ebrill 2017 am nad ydynt yn cael eu trosglwyddo yn unol â pharagraff 3.
Mae paragraff 3 hefyd yn ei gwneud yn bosibl i GCC barhau i ymchwilio i honiad bod cofnod yng nghofrestr CGC wedi ei gael yn dwyllodrus neu ei wneud yn anghywir.
Mae paragraffau 4, 5, 6 a 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion arbennig.
Os oedd cofrestriad person yng nghofrestr CGC yn ddarostyngedig i amodau, mae paragraff 4 yn darparu i’r amodau hynny gael eu cario drosodd i gofrestr GCC.
Mae paragraff 5 yn gwneud darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â pherson y mae ei gofrestriad yn ddarostyngedig i gerydd a ddyroddir gan CGC. Yn yr achosion hynny, bydd ei gofrestriad yng nghofrestr GCC yn cofnodi rhybudd o ran ymddygiad a pherfformiad yn y dyfodol a wneir yn unol â’r un telerau ac ar gyfer yr un hyd â’r cerydd.
Mae paragraff 6 yn darparu y bydd person sydd wedi ei atal dros dro gan CGC yn parhau i fod wedi ei atal dros dro yn unol â’r un telerau ac ar gyfer yr un hyd pan fydd wedi ei gofrestru â GCC.
Mae paragraff 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch person sy’n ddarostyngedig i orchymyn gwahardd sy’n atal y person rhag gwneud cais i gael ei adfer i’r gofrestr. Mae’r gorchymyn wedi ei drosi i drefniant cyfatebol GCC.
Mae paragraff 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion sydd yn yr arfaeth gerbron un o bwyllgorau disgyblu CGC. Ymdrinnir â’r achosion hynny, ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, gan GCC yn unol â Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014, sydd wedi eu harbed at y diben hwnnw.
Mae paragraffau 9 a 10 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer cofrestru, adnewyddu cofrestriad a cheisiadau i adfer i gofrestr CGC sydd yn yr arfaeth gerbron un o bwyllgorau CGC. Ymdrinnir â’r achosion hynny, ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, gan GCC yn unol â Rheolau perthnasol CGC, sydd wedi eu harbed at y diben hwnnw.
Mae paragraff 11 yn cadw’r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad CGC a wneir cyn 3 Ebrill 2017. Mae’r apêl i’r Tribiwnlys.
Mae paragraff 12 yn darparu bod unrhyw gwestiwn o ran ymddygiad neu ymarfer person cyn 3 Ebrill 2017 i gael ei benderfynu, ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw, yn unol â’r un safonau ymarfer a oedd yn gymwys ar yr adeg berthnasol.
Mae paragraff 13 yn trin safonau hyfedredd, cymwysterau, cyrsiau, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus a gymeradwyir gan CGC cyn 3 Ebrill 2017 fel pe baent wedi eu cymeradwyo gan GCC. Mae hefyd yn cadw hawl GCC, ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw, i arfer ei farn ei hun ynghylch cymeradwyaeth y mae’r ddarpariaeth hon yn effeithio arni.
Mae paragraff 14 yn darparu y caniateir parhau i ymchwilio i gwynion a wneir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru cyn 3 Ebrill 2017 ynghylch CGC ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw. Mae unrhyw gŵyn o’r fath i gael ei thrin fel pe bai wedi ei gwneud yn erbyn GCC.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 67 (yn rhannol) | 11 Gorffennaf 2016 | 2016/713 (Cy. 191) (C. 51) |
Adran 68 (yn rhannol) | 11 Gorffennaf 2016 | 2016/713 (Cy. 191) (C. 51) |
Adran 73(1) a (2) (yn rhannol) | 11 Gorffennaf 2016 | 2016/713 (Cy. 191) (C. 51) |
Adran 75 (yn rhannol) | 11 Gorffennaf 2016 | 2016/713 (Cy. 191) (C. 51) |
Adran 185 ac Atodlen 3 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2016 | 2016/467 (Cy. 149) (C. 28) |
Gweler hefyd adran 188(2) o’r Ddeddf am ddarpariaethau a ddaeth i rym ar 19 Ionawr 2016 (y diwrnod ar ôl dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).
Mae Atodlen 2 (sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch Gofal Cymdeithasol Cymru) yn cael ei chyflwyno gan adran 67(4) o’r Ddeddf.
Sefydlwyd Cyngor Gofal Cymru gan adran 54 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14) (“Deddf 2000”).
Mae adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn diddymu adran 54 o Ddeddf 2000; ond mae’r corff corfforaethol a sefydlwyd ganddi, sef Cyngor Gofal Cymru, wedi ei ailenwi’n Ofal Cymdeithasol Cymru ac mae’r Ddeddf yn ailddatgan ei swyddogaethau gwreiddiol, yn eu haddasu ac yn ychwanegu atynt.
Gweler adran 56(2A) o Ddeddf 2000.
Gweler adran 80(3) o’r Ddeddf; y rhannau hyn yw’r “rhan gweithwyr cymdeithasol”, y “rhan ychwanegol” a’r “rhan ymwelwyr Ewropeaidd”.
Mae’r Pwyllgor Cofrestru wedi ei sefydlu gan reol 14 o Reolau Cyngor Gofal Cymru (Cofrestru) 2015(b), sydd wedi eu gwneud gan CGC o dan bwerau yn Rhan 4 o Ddeddf 2000 a chyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
Mae’r Pwyllgor Adfer, y Pwyllgor Ymchwilio a’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer wedi eu sefydlu gan reol 4 o Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014, sydd wedi eu gwneud gan CGC o dan bwerau yn Rhan 4 o Ddeddf 2000 a chyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
Mae adran 174 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i GCC sefydlu panel apelau cofrestru, panel addasrwydd i ymarfer a phanel gorchmynion interim.
Gweler Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014.
Caniateir i rybuddion gael eu dyroddi gan GCC o dan adran 126(3)(c) o’r Ddeddf, a chan banel addasrwydd i ymarfer o dan adrannau 137(5), 138(6), 152(3)(b)(ii) ac (8)(b), 153(3)(b)(ii) a (9)(b), 154(3)(b)(ii) ac (8)(b) a 155(6)(b)(ii).
Mae adran 163 o’r Ddeddf (sy’n gwneud darpariaeth atodol ynghylch atal dros dro) yn gwneud darpariaeth nad yw person, yn ddarostyngedig i is-adran (3), i gael ei drin fel person cofrestredig os yw’n ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro er gwaethaf bod ei enw yn dal i ymddangos yn y gofrestr. Bydd hyn yn sicrhau na chaiff gweithwyr cymdeithasol sy’n ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro eu galw eu hunain yn weithwyr cymdeithasol cofrestredig neu honni eu bod wedi eu cofrestru, ond caiff achosion addasrwydd i ymarfer, achosion o dan adran 94 o’r Ddeddf (cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol), neu gais i ddileu cofnod o’r gofrestr drwy gytundeb (gan reolau a wneir o dan adran 92) barhau.
Caniateir i orchymyn gwahardd gael ei wneud gan Bwyllgor Adfer CGC yn unol â Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014 o dan amgylchiadau pan fo person wedi ei dynnu oddi ar y gofrestr ac wedi gwneud cais blaenorol i gael ei adfer i gofrestr CGC sydd wedi ei wrthod.
Gweler adran 97 o’r Ddeddf (adfer yn dilyn achos addasrwydd i ymarfer).
Mae adran 98(4) o’r Ddeddf yn darparu pŵer i banel apelau cofrestru i gyfarwyddo na chaiff person wneud unrhyw geisiadau pellach i gael ei adfer i gofrestr GCC. Mae adran 97 yn gwneud darpariaeth sy’n galluogi person i wneud cais am i gyfarwyddyd o’r fath gael ei adolygu ar ôl cyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y dyddiad y mae’r cyfarwyddyd yn cael ei roi.
Mae Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014 wedi eu gwneud o dan adrannau 59 ac 71 o Ddeddf 2000. Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn Rhannau 2 i 10 o’r Ddeddf (yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig ac i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) a hefyd adran 185 a Rhan 2 o Atodlen 3, sy’n diddymu darpariaethau penodol yn Neddf 2000. Mae’r ddarpariaeth hon yn arbed y Rheolau at y dibenion a bennir yn y paragraff.
Gwnaed Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Cofrestru) 2015(b) o dan bwerau yn adrannau 57 i 60, 63 i 65 ac 71 o Ddeddf 2000. Mae erthygl 2 yn cychwyn Rhannau 2 i 10 o’r Ddeddf (yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig ac i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) a hefyd adran 185 a’r Atodlen sy’n diddymu darpariaethau penodol yn Neddf 2000. Mae’r ddarpariaeth hon yn arbed y Rheolau at y dibenion a bennir yn y paragraff.
Gallai gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr gofal cartref wneud cais ar gyfer cofrestriad gwirfoddol yn y rhan ychwanegol o’r gofrestr a gynhelir gan CGC o dan adran 56 o Ddeddf 2000. Nid yw’r gofrestr a gynhelir gan GCC o dan adran 80 o’r Ddeddf yn gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cofrestriad gwirfoddol gan bersonau o’r fath. Gweler paragraff 3 am ddarpariaeth ynghylch trosglwyddo cofnodion ar y gofrestr a gynhelir gan CGC. Bydd ceisiadau ac achosion y cyfeirir atynt ym mharagraff 9(4) yn darfod.
Gweler adran 63(3) o Ddeddf 2000.
O.S. 2001/2561. Mae erthygl 5(2)(a) yn trin cyrsiau penodol a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol yn gyrsiau a gymeradwyir gan CGC (a chyrff eraill) hyd nes y mae CGC etc. yn penderfynu nad yw’r cyrsiau hynny yn cael eu cydnabod ganddo.
Gweler adran 55(6) o Ddeddf 2000 ac adran 90(8) o’r Ddeddf am y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”.
Amnewidiwyd pennawd adran 64 o Ddeddf 2000 gan baragraff 12(c) o Atodlen 15 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), a chan reoliad 106(2) o Ran 7(1) o Reoliadau Cymwysterau Ewropeaidd (Proffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol) 2016 (O.S. 2016/1030). Ychwanegwyd is-adran (A1) gan reoliad 238(a) o Ran 18 o Reoliadau Cymwysterau Ewropeaidd (Proffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol) 2007 (O.S. 2007/3101).
Diwygiwyd adran 65 gan O.S. 2007/3101.
1983 p. 20, mewnosodwyd adran 114A gan adran 19 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p. 12), mae hefyd wedi ei diwygio gan adran 217 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012, a chan adran 185 o’r Ddeddf a Rhan 2 o Atodlen 3 iddi.
2005 p. 10 (“Deddf 2005”).
Mae adran 16 o Ddeddf 2005 yn gwneud darpariaeth am adroddiadau ymchwiliadau.