YR ATODLENArbedion a darpariaethau trosiannol

Trosglwyddo cofrestr CGC

3.

(1)

Mae pob person sydd yn union cyn 3 Ebrill 2017 wedi ei gofrestru ar un o rannau cofrestr CGC6 a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei gofrestru, ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw, yn y rhan gyfatebol o gofrestr GCC7.

(2)

Y rhannau o’r gofrestr y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)

y brif ran;

(b)

y rhan ychwanegol;

(c)

y rhan ymwelwyr Ewropeaidd.

(3)

Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo person—

(a)

wedi ei gofrestru yn y rhan ychwanegol o gofrestr CGC, a

(b)

yn dod o fewn y naill neu’r llall o’r disgrifiadau a ganlyn—

(i)

gweithiwr cartref gofal i oedolion, neu

(ii)

gweithiwr gofal cartref.

(4)

Mae person y mae ei enw yn ymddangos ym mhrif ran cofrestr CGC, yn y rhan ychwanegol ohoni, neu yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd ohoni, ac y mae ei gofrestriad wedi ei atal dros dro, yn cael ei ystyried at ddibenion is-baragraffau (1) i (3) fel pe bai wedi ei gofrestru yn y rhan honno o’r gofrestr, ond mae paragraff 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y personau hynny.

(5)

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at gofnod yn y gofrestr sydd wedi ei gynnwys ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i gael eu trin ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017 fel pe baent yn cynnwys cofnodion blaenorol yng nghofrestr CGC sy’n ymwneud â phersonau a drosglwyddir.

(6)

Cyfeirir at berson, sy’n dod yn gofrestredig yng nghofrestr GCC yn rhinwedd y paragraff hwn, yn yr Atodlen hon yn “person a drosglwyddir”.