Erthygl 3
YR ATODLENArbedion a darpariaethau trosiannol
Dehongli
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “CGC” (“the CCW”) yw Cyngor Gofal Cymru();
ystyr “cofrestr CGC” (“the CCW register”) yw’r gofrestr a gynhelir gan CGC o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “cofrestr GCC” (“the SCW register”) yw’r gofrestr a gynhelir gan GCC o dan adran 80 o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ystyr “GCC” (“SCW”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru();
mae i “gweithiwr gofal cymdeithasol” (“social care worker”) yr ystyr a roddir yn adran 79 o’r Ddeddf;
mae i “person a drosglwyddir” (“transferred person”) yr ystyr a roddir gan baragraff 3.
Cyffredinol
2. Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Atodlen hon, ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae unrhyw beth a wneir gan CGC, neu mewn perthynas ag ef, i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn statudol (pan fo’n briodol), i gael ei drin fel pe bai wedi ei wneud gan GCC neu mewn perthynas ag ef.
Trosglwyddo cofrestr CGC
3.—(1) Mae pob person sydd yn union cyn 3 Ebrill 2017 wedi ei gofrestru ar un o rannau cofrestr CGC() a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei gofrestru, ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw, yn y rhan gyfatebol o gofrestr GCC().
(2) Y rhannau o’r gofrestr y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—
(a)y brif ran;
(b)y rhan ychwanegol;
(c)y rhan ymwelwyr Ewropeaidd.
(3) Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo person—
(a)wedi ei gofrestru yn y rhan ychwanegol o gofrestr CGC, a
(b)yn dod o fewn y naill neu’r llall o’r disgrifiadau a ganlyn—
(i)gweithiwr cartref gofal i oedolion, neu
(ii)gweithiwr gofal cartref.
(4) Mae person y mae ei enw yn ymddangos ym mhrif ran cofrestr CGC, yn y rhan ychwanegol ohoni, neu yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd ohoni, ac y mae ei gofrestriad wedi ei atal dros dro, yn cael ei ystyried at ddibenion is-baragraffau (1) i (3) fel pe bai wedi ei gofrestru yn y rhan honno o’r gofrestr, ond mae paragraff 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y personau hynny.
(5) Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at gofnod yn y gofrestr sydd wedi ei gynnwys ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i gael eu trin ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017 fel pe baent yn cynnwys cofnodion blaenorol yng nghofrestr CGC sy’n ymwneud â phersonau a drosglwyddir.
(6) Cyfeirir at berson, sy’n dod yn gofrestredig yng nghofrestr GCC yn rhinwedd y paragraff hwn, yn yr Atodlen hon yn “person a drosglwyddir”.
Cofrestriad sy’n ddarostyngedig i amodau
4.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os oedd cofrestriad person a drosglwyddir yng nghofrestr CGC, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yn ddarostyngedig i amodau a osodir—
(a)wrth ganiatáu cais y person a drosglwyddir i CGC ar gyfer cofrestru neu adnewyddu cofrestriad gan CGC, y Pwyllgor Cofrestru() neu’r Pwyllgor Adfer(), neu
(b)yn ystod achos, neu ar ddiwedd achos, mewn perthynas ag ymddygiad person gan y Pwyllgor Ymchwilio neu’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer.
(2) Per bai’r amodau wedi parhau mewn grym ar 3 Ebrill 2017, mae cofrestriad y person hwnnw yng nghofrestr GCC yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r amodau hynny fel pe baent wedi eu gosod yn unol â’r un telerau ac ar gyfer yr un hyd mewn gorchymyn cofrestru amodol a wneir gan banel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer() (sydd i gael ei ystyried a chanddo’r pŵer i osod yr amodau hynny).
Cofrestriad sy’n ddarostyngedig i gerydd
5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, oedd cofnod o gerydd() ar gofnod person a drosglwyddir yng nghofrestr CGC, a
(b)pe bai’r cofnod o’r cerydd wedi parhau ar 3 Ebrill 2017.
(2) Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae cofrestriad y person hwnnw yng nghofrestr GCC i gael ei drin fel pe bai’n ddarostyngedig i rybudd o ran ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol, yn unol â’r un telerau ac ar gyfer yr un hyd â’r cerydd, a ddyroddir gan GCC neu banel addasrwydd i ymarfer() (sydd i gael ei ystyried a chanddo’r pŵer i ddyroddi’r rhybudd hwnnw).
Cofrestriad sydd wedi ei atal dros dro
6.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os oedd cofrestriad person a drosglwyddir yng nghofrestr CGC yn union cyn 3 Ebrill 2017 wedi ei atal dros dro yn rhinwedd gorchymyn atal dros dro a osodir gan Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer CGC neu orchymyn atal dros dro interim a osodir gan ei Bwyllgor Ymchwilio, a
(b)pe bai’r ataliad dros dro wedi parhau ar 3 Ebrill 2017.
(2) Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae cofrestriad y person yng nghofrestr GCC i gael ei drin fel pe bai wedi ei atal dros dro yn unol â’r un telerau ac ar gyfer yr un hyd drwy orchymyn panel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer GCC (sydd i gael ei ystyried a chanddo’r pŵer i wneud y gorchymyn hwnnw).
(3) Yn unol â hynny, a chyhyd ag y mae’r ataliad dros dro yn cael ei drin fel pe bai’n parhau, bydd adran 163 o’r Ddeddf yn gymwys i gofrestriad y person yng nghofrestr GCC().
Gorchmynion gwahardd
7.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, oedd person a drosglwyddir yn ddarostyngedig i orchymyn gwahardd a osodir gan Bwyllgor Adfer CGC().
(2) Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae hawl y person i wneud cais i gael ei adfer i gofrestr GCC() i gael ei thrin fel pe bai wedi ei atal am gyfnod amhenodol gan gyfarwyddyd a wneir, ar yr un dyddiad â’r gorchymyn gwahardd, gan banel apelau cofrestru i GCC o dan adran 98(4) o’r Ddeddf (achosion adfer)().
Achosion presennol CGC
8.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, mae person a drosglwyddir—
(a)yn ddarostyngedig i achos gerbron Pwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer CGC, neu
(b)yn berson y mae CGC wedi cael gwybodaeth amdano a allai arwain at achos o’r fath.
(2) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae achosion o’r fath neu ddarpar achosion o’r fath i gael eu diweddu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014().
Ceisiadau ar gyfer cofrestru neu adnewyddu sydd heb eu penderfynu
9.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yw cais wedi ei wneud i CGC ond nad yw wedi ei benderfynu ganddo, ar gyfer—
(a)cofrestru ym mhrif ran cofrestr CGC, yn y rhan ychwanegol ohoni neu yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd ohoni, neu
(b)adnewyddu cofrestriad o’r fath.
(2) Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae cais o’r fath i gael ei drin fel pe bai wedi ei wneud i GCC ar gyfer cofrestru yn y rhan gyfatebol o gofrestr GCC, neu ar gyfer adnewyddu cofrestriad o’r fath.
(3) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yw cais yn ddarostyngedig i achos gerbron Pwyllgor Cofrestru CGC, mae’r achos i gael ei ddiweddu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Cofrestru) 2015(b)().
(4) Ond nid yw is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys—
(a)i gais ar gyfer cofrestru fel gweithiwr cartref gofal i oedolion neu weithiwr gofal cartref yn y rhan ychwanegol o gofrestr CGC,
(b)i adnewyddu cais o’r fath, neu
(c)i achos mewn cysylltiad â chais o’r fath().
Ceisiadau i adfer
10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 7 ac is-baragraff (2), caiff person yr oedd gorchymyn dileu wedi ei wneud mewn perthynas ag ef yn unol â Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Ymddygiad) 2011 neu Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014 cyn 3 Ebrill 2017, ac nad yw erbyn y diwrnod hwnnw wedi ei adfer i gofrestr CGC, wneud cais i GCC i gael ei adfer i gofrestr GCC.
(2) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, mae cais o’r fath i gael ei benderfynu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014.
(3) Mae cais a wneir cyn 3 Ebrill 2017 i adfer i brif ran cofrestr CGC, i’r rhan ychwanegol ohoni neu i’r rhan ymwelwyr Ewropeaidd ohoni i gael ei drin, ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw, fel pe bai wedi ei wneud i GCC i adfer i’r rhan gyfatebol o gofrestr GCC.
(4) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yw achos gerbron Pwyllgor Adfer CGC wedi dechrau yn unol â chais o’r fath, mae’r achos i gael ei ddiweddu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014.
(5) Ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)i gais a wneir gan weithiwr cartref gofal i oedolion neu weithiwr gofal cartref i gael ei adfer i’r rhan ychwanegol o’r gofrestr, neu
(b)i achos mewn cysylltiad â chais o’r fath.
Apelau
11.—(1) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, mae adran 68 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (apelau i’r Tribiwnlys) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â phenderfyniad CGC a wneir cyn 3 Ebrill 2017 mewn perthynas â pherson a drosglwyddir neu berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn dileu.
(2) Ond ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017—
(a)mae ymatebydd i apêl a wneir neu a barheir yn rhinwedd is-baragraff (1) i gael ei drin fel GCC yn hytrach na CGC, a
(b)mae GCC (neu banel a sefydlir o dan adran 174 o’r Ddeddf) i gael ei drin—
(i)fel pe bai wedi gwneud y penderfyniad o dan sylw, a
(ii)fel pe bai ganddo’r pŵer i weithredu penderfyniad y Tribiwnlys (neu unrhyw benderfyniad a wneir ar apêl bellach gan y Tribiwnlys).
Cwestiynau sy’n ymwneud ag ymddygiad
12.—(1) Mae unrhyw gwestiwn o ran ymddygiad neu ymarfer, cyn 3 Ebrill 2017, person a drosglwyddir neu berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn dileu, i gael ei benderfynu ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw fel y byddai wedi ei benderfynu cyn y diwrnod hwnnw.
(2) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, mae cod ymarfer a gyhoeddir o dan adran 62 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a fyddai wedi bod yn gymwys yn union cyn 3 Ebrill 2017 mewn cysylltiad â’r ymddygiad neu’r ymarfer o dan sylw i barhau i fod yn gymwys ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw mewn cysylltiad â’r ymddygiad hwnnw neu’r ymarfer hwnnw.
Cymeradwyo safonau, cyrsiau, etc.
13.—(1) Mae’r safon ofynnol o hyfedredd yng ngwaith cymdeithasol perthnasol() a ddisgrifir yn union cyn 3 Ebrill 2017 mewn rheolau a wneir gan CGC o dan adran 63 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (cymeradwyo cyrsiau etc.) yn cael effaith ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw fel pe bai wedi ei sefydlu o dan adran 114 o’r Ddeddf (cymeradwyo cyrsiau etc.) fel y safon o hyfedredd sy’n ofynnol i berson gael ei dderbyn i gofrestr GCC.
(2) Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae’r canlynol i gael eu trin fel cymhwyster a gymeradwyir at ddibenion adran 84 o’r Ddeddf (“wedi ei gymhwyso’n briodol”)—
(a)cwblhau cwrs yn llwyddiannus mewn gwaith cymdeithasol perthnasol a oedd, yn union cyn 3 Ebrill 2017, wedi ei gymeradwyo gan CGC yn rhinwedd adran 63 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
(b)bodloni gofynion o ran hyfforddiant a osodir cyn 3 Ebrill 2017 yn rhinwedd adran 58(2)(a)(iii) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (sy’n ymwneud ag amod ar gyfer caniatáu cofrestriad o dan y Ddeddf honno fel gweithiwr cymdeithasol);
(c)bodloni gofynion o ran hyfforddiant a osodir cyn 3 Ebrill 2017 yn rhinwedd adran 58(2)(b) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (sy’n ymwneud â gofynion hyfforddiant ar gyfer caniatáu cofrestriad o dan y Ddeddf honno, ar gyfer personau ac eithrio gweithwyr cymdeithasol, fel gweithiwr gofal cymdeithasol).
(3) Mae is-baragraff (2)(a) hefyd yn gymwys i gyrsiau a oedd yn cael eu trin yn union cyn 3 Ebrill 2017 fel cyrsiau a gymeradwyir gan CGC yn rhinwedd erthygl 5(2)(a) o Orchymyn Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol (Cynllun Trosglwyddo) 2001() fel y mae’n gymwys i gyrsiau a gymeradwyir gan CGC yn rhinwedd adran 63 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
(4) Mae cyfnod addasu neu brawf tueddfryd y mae CGC yn ei gwneud yn ofynnol i geisydd ei wneud cyn 3 Ebrill 2017 yn rhinwedd adran 64(A1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (cymwysterau a geir y tu allan i ardal Cyngor Cymru, pan fo’r ceisydd yn berson esempt o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol)() i gael ei drin ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw yn ofynnol yn rhinwedd adran 85 o’r Ddeddf (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru).
(5) Mae cwblhau’n llwyddiannus hyfforddiant mewn gwaith cymdeithasol perthnasol a oedd, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yn cael ei gydnabod gan CGC fel bod o safon ddigonol ar gyfer cofrestru ym mhrif ran cofrestr CGC at ddibenion adran 64(2)(b)(i) o Ddeddf Safonau Gofal 2000() (cymwysterau a geir y tu allan i ardal Cyngor Cymru) i gael ei drin ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017 fel cymhwyster y mae GCC wedi ei fodloni yn ei gylch at ddibenion adran 85(2)(b)(i) o’r Ddeddf.
(6) Mae cwblhau’n llwyddiannus hyfforddiant ychwanegol sy’n ofynnol cyn 3 Ebrill 2017 gan CGC o dan adran 64(2)(b)(ii) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (hyfforddiant ychwanegol sy’n ofynnol pan nad yw CGC wedi ei fodloni o ran safon hyfforddiant) i gael ei drin ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw fel hyfforddiant ychwanegol sy’n bodloni GCC at ddibenion adran 85(2)(b)(ii) o’r Ddeddf.
(7) Mae hyfforddiant pellach a oedd, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yn ofynnol gan CGC yn rhinwedd adran 65 o Ddeddf Safonau Gofal 2000() (hyfforddiant ar ôl cofrestru) i gael ei drin ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw fel pe bai—
(a)yn ddatblygiad proffesiynol parhaus a bennir gan GCC yn rhinwedd adran 113(1) o’r Ddeddf (datblygiad proffesiynol parhaus), oni bai bod yr hyfforddiant yn ymwneud â gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd, neu
(b)yn gwrs a gymeradwyir gan GCC yn rhinwedd adran 114A o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (cymeradwyo cyrsiau: Cymru)(), yn achos gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd.
(8) Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal GCC ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017 rhag arfer ei bwerau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag unrhyw safon, cymhwyster, cwrs, hyfforddiant neu ddatblygiad proffesiynol parhaus a grybwyllir yn y paragraff hwn.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
14.—(1) Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, caiff Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) barhau i ymchwilio i gŵyn a wneir iddo mewn perthynas â CGC cyn 3 Ebrill 2017 o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005(), ond fel pe bai’r gŵyn wedi ei gwneud mewn cysylltiad â GCC.
(2) Pan fo’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad yn unol â’r paragraff hwn, rhaid i’r Ombwdsmon anfon adroddiad o ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw at Weinidogion Cymru ac i GCC().