2017 Rhif 459 (Cy. 97)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 319ZB a 319ZC o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, ac a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 333 o’r Ddeddf honno2, sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy3, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw —

    1. a

      cyngor sir yng Nghymru;

    2. b

      cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw awdurdod cynllunio lleol perthnasol4;

  • ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

  • mae “pwyllgor” (“committee”) yn cynnwys is-bwyllgor awdurdod perthnasol;

  • ystyr “ward amlaelod5” (“multiple member ward”) yw ward etholiadol yr etholir drosti fwy nag un aelod; ac

  • ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir drosti aelodau i awdurdod lleol.

Maint pwyllgor

3

—Mae’r gofynion a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 319ZB o Ddeddf 1990.

4

1

Mae awdurdod perthnasol i benodi i bwyllgor yr awdurdod sy’n cyflawni swyddogaeth berthnasol6

a

dim llai nag 11 o’u haelodau; a

b

dim mwy nag 21 o’u haelodau.

2

Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i reoliad 5.

5

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i awdurdod perthnasol sy’n—

a

cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol; neu

b

bwrdd cydgynllunio7.

2

Rhaid i nifer yr aelodau a benodir i bwyllgor yn unol â’r rheoliad 4 beidio â bod yn fwy na hanner cyfanswm nifer aelodau’r awdurdod perthnasol, wedi ei dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.

Wardiau amlaelod6

1

Yn achos ward amlaelod, un o aelodau’r awdurdod lleol yn unig o’r ward hwnnw sy’n gymwys i’w benodi i bwyllgor awdurdod perthnasol.

2

Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (3).

3

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i awdurdod lleol sy’n cynnwys wardiau amlaelod yn unig.

Jane HuttUn o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gofynion sy’n ymwneud â maint a chyfansoddiad pwyllgorau ac is-bwyllgorau awdurdodau cynllunio lleol perthnasol yng Nghymru sy’n cyflawni swyddogaeth berthnasol.

“Awdurdodau cynllunio lleol perthnasol” yw cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol, byrddau cydgynllunio ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. “Swyddogaeth berthnasol” yw swyddogaeth sy’n arferadwy gan awdurdod cynllunio lleol perthnasol mewn perthynas â chais o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (gweler adran 319ZD o’r Ddeddf honno).

Y gofynion yw bod pwyllgorau ac is-bwyllgorau awdurdodau cynllunio lleol perthnasol i gynnwys dim llai nag 11 o aelodau a dim mwy nag 21 o aelodau o’r awdurdod. Mewn perthynas â wardiau amlaelod, un aelod o’r ward yn unig sy’n gymwys i gael ei benodi i bwyllgor neu is-bwyllgor. Nid yw’r cyfyngiad ar benodi un aelod yn unig yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cynnwys wardiau amlaelod yn unig.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.