RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys110

1

Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys fynd iddo oherwydd anabledd sydd ganddo, mewn perthynas ag ymgymryd ohono â chwrs ôl-radd dynodedig.

2

Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw’r person hwnnw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi ei hepgor gan baragraff (4).

3

Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

a

bod Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais person am gymorth o dan reoliad 115, wedi penderfynu mewn cysylltiad â’r cwrs ôl-radd dynodedig fod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

b

bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r person fynd i wariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â’r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.

4

Yn ddarostyngedig i baragraff (9), nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys—

a

os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs—

i

bwrsari gofal iechyd;

ii

unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007;

iii

unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;

iv

unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan sefydliad A sy’n cynnwys unrhyw daliad at ddiben talu am wariant ychwanegol yr aed iddo gan A oherwydd ei anabledd; neu

v

unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 200095 sy’n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol yr aed iddo gan A oherwydd ei anabledd; neu

vi

unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 201696 sy’n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol yr aed iddo gan A oherwydd ei anabledd; neu

b

os yw A wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

c

os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed a heb ddilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

d

os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

5

At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau myfyrwyr.

6

Mewn achos lle mae’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

a

cyn 25 Medi 1991; a

b

gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur,

y bydd paragraff (4)(c) yn gymwys.

7

Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw’r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod odano.

8

Ac eithrio pan fo’r amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 117(3)(c)(ii) yn gymwys, fel bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â rhan o’i gwrs dramor, nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig.

9

Yn ddarostyngedig i baragraffau (11) i (13) ac er gwaethaf paragraffau (3)(a) a (4) mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (3)(b) a pharagraff (10)(a) neu (b).

10

Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw—

a

bod―

i

y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

ii

y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd presennol; a

iii

statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys heb ei derfynu.

b

bod—

i

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o’r blaen bod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig ac eithrio’r cwrs ôl-radd presennol;

ii

statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

iii

y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a

iv

statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys heb ei derfynu.

11

Os bydd—

a

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu statws ffoadur ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

12

Os bydd—

a

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben, ac na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

13

Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef bod y myfyriwr yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn 1 Medi 2007.

14

Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol—

a

mwy nag un cwrs ôl-radd dynodedig;

b

cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;

c

cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dynodedig;

d

cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd111

1

Os digwydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2) yn ystod blwyddyn academaidd—

a

caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a

b

nid oes grant o’r math sydd ar gael o dan y Rhan hon ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd yn dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

2

Y digwyddiadau yw—

a

cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

b

y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

c

y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn un o’i dinasyddion yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

d

y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

e

y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

f

y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Ran 2 o Atodlen 1; neu

g

y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

Cyrsiau ôl-radd dynodedig112

1

Mae cwrs ôl-radd yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 110—

a

os yw’n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu’n uwch i gael mynediad iddo fel rheol;

b

os yw’n gwrs—

i

sy’n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd; a

ii

yn achos cwrs rhan-amser a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau’r cwrs mewn nid mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol; neu

iii

yn achos cwrs rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau’r cwrs mewn nid mwy na phedair gwaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol;

c

os yw’n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

d

ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2017, os yw’n cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig; ac

e

os nad yw’n gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu’n gwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

2

At ddibenion paragraff (1)—

a

mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;

b

bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus;

c

ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199297; a

d

mae cwrs wedi ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig pan fo o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.

3

At ddibenion paragraff (1)(b)(ii)—

a

ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs llawnamser sy’n arwain at yr un cymhwyster â’r cwrs rhan-amser dan sylw;

b

ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw’r cyfnod y byddai myfyriwr llawnamser safonol yn cwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol;

c

ystyr “myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr sydd i’w ystyried yn un—

i

sydd wedi dechrau ar y cwrs llawnamser cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;

ii

nad yw wedi ei esgusodi o unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol;

iii

nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol; a

iv

nad yw wedi bod yn absennol o’r cwrs llawnamser cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.

4

At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 110, caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

5

Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (4).

Cyfnod cymhwystra113

1

Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â chwrs ôl-radd dynodedig hyd nes terfynir y statws hwnnw yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 110.

2

Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

3

Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn a rheoliad 110, mae’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig.

4

Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“A” yn y paragraff hwn a pharagraff (5))—

a

yn tynnu’n ôl o’i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu na fyddant yn trosglwyddo statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 114; neu

b

yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.

5

Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

6

Pan fo’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig sy’n gwrs rhan-amser, mae’r cyfnod cymhwystra’n terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pan â’n amhosibl, yn ystod y flwyddyn honno neu ar ei diwedd, i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys gwblhau’r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 112(1)(b)(ii).

7

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau a ganlyn y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

a

terfynu’r cyfnod cymhwystra;

b

penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant o dan y Rhan hon;

c

trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 119.

8

Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar y dyddiad y daw’r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y byddant yn penderfynu arnynt.

Trosglwyddo statws114

1

Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo o gwrs ôl-radd dynodedig i gwrs ôl-radd dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i’r cwrs arall hwnnw—

a

os cânt gais oddi wrth y myfyriwr ôl-raddedig cymwys am wneud hynny;

b

os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

c

os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

2

Y seiliau trosglwyddo yw—

a

bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn yr un sefydliad; neu

b

bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) hawlogaeth i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo, gweddill y cymorth o dan y Rhan hon, y penderfynodd Gweinidogion Cymru fod ganddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo ohono.

4

Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth ar ôl y trosglwyddo, yn unol â’r Rhan hon.

5

Ni chaiff myfyriwr ôl-raddedig cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1), ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo.

Ceisiadau am gymorth115

1

Rhaid i berson wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-radd dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

2

Rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

3

Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael grant a swm y grant sy’n daladwy, os oes grant yn daladwy o gwbl.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd—

a

pa un a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio;

b

os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl; ac

c

sut y dyrennir y swm hwnnw rhwng y mathau o wariant cymwys.

Gwybodaeth116

Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â rhoi gwybodaeth gan geisydd a chan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.

Swm y grant117

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y grant sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys o dan y Rhan hon yw’r cyfryw swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, i gynorthwyo gydag un neu ragor o fathau o wariant cymwys.

2

Rhaid i’r grant beidio â bod yn fwy na £10,590 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.

3

At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw’r “mathau o wariant cymwys”—

a

gwariant ar gynorthwyydd nad yw’n gynorthwyydd meddygol;

b

gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; a

c

gwariant ychwanegol yr eir iddo—

i

o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu sefydliad;

ii

o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben mynychu, fel rhan o’r cwrs, unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion mynychu’r Athrofa.

4

Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae grant o dan y Rhan hon yn daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

5

Pan fo grant o dan y Rhan hon yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.

6

Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 111(2) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a) ac (c) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr ôl-raddedig cymwys fod â hawl i gael grant o dan y Rhan hon.

Talu’r grant118

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant y mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i’w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol ac wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon fe gânt wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i’w gael.

2

Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau’r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.

Gordaliadau119

1

Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i’w gael o dan y Rhan hon.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid ydynt yn ystyried nad yw’n briodol gwneud hynny.

3

Dyma’r dulliau ar gyfer adennill—

a

tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

b

cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.

4

Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

5

Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

6

Yn y naill neu’r llall o’r amgylchiadau ym mharagraffau (7) ac (8), mae gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

7

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw—

a

pan fo Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant o dan y Rhan hon i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr ôl-raddedig cymwys;

b

pan fo cyfnod cymhwystra’r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

c

pan nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.

8

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw—

a

pan fo cyfnod cymhwystra’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben; a

b

pan wneir taliad grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag offer arbenigol i’r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.

9

Pan fo gordaliad o grant o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â’r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.

10

At ddiben y rheoliad hwn, mae cyfeiriad at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 110 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys).