RHAN 3LL+CGWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH

Ceisiadau am gymorthLL+C

9.—(1Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn, a swm y cymorth sy’n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ai peidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, ei hysbysu o swm y cymorth sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 9 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Terfynau amserLL+C

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o’r flwyddyn academaidd y mae’n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys—

(a)os bydd un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 15 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rheoliadau hyn, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd;

(b)os yw’r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 18 neu fenthyciad newydd at ffioedd o dan reoliad 19 neu fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 41 neu fenthyciad at ffioedd coleg o dan Atodlen 4 neu os yw’n ceisio am swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 18(4), swm ychwanegol o fenthyciad newydd at ffioedd o dan reoliad 19(7), swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 20(7) neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 53(3) neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd coleg o dan baragraff 10(2) o Atodlen 4 ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn ymwneud â hi;

(c)os yw’r ceisydd yn gwneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 53(1), ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn cyfeirio ati neu o fewn cyfnod o un mis sy’n dechrau ar y diwrnod y caiff y ceisydd hysbysiad ynglŷn â’r uchafswm wedi ei gynyddu, pa un bynnag yw’r olaf;

(d)os yw’r ceisydd yn gwneud cais am grant o dan reoliad 24, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol;

(e)os yw’r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat neu fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam, neu swm ychwanegol o fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat o dan reoliad 21(7), neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam o dan reoliad 22(6), ac mewn achos o’r fath rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn ymwneud â hi;

(f)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt mewn ysgrifen.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 10 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

GwybodaethLL+C

11.  Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â darparu gwybodaeth gan geisydd a chan fyfyriwr cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 11 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciadLL+C

12.—(1Er mwyn cael benthyciad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr cymwys ymrwymo i gontract gyda Gweinidogion Cymru ar delerau sydd i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys lofnodi contract drwy ddefnyddio llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 12 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)