RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD

PENNOD 1DARPARIAETH GYFFREDINOL

Cymorth at ffioedd yn gyffredinolI113

1

Ni chaiff cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd fod yn fwy na’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

2

At ddibenion cyfrifo swm y cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon, rhaid peidio ag ystyried sefydliad sy’n darparu cyrsiau a ddynodir gan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 199949 yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am yr unig reswm ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 199250.

3

Rhaid ymdrin â myfyriwr cymwys y mae paragraff (4) yn gymwys iddo fel pe bai’r myfyriwr cymwys yn bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben bod â hawl i gael cymorth at ffioedd.

4

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r canlynol—

a

myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

b

myfyriwr cymwys anabl—

i

nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

ii

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol oherwydd na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y myfyriwr cymwys.

5

Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r cwrs hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

6

Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 13 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaiddI214

Os bydd unrhyw un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 15 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

a

caiff myfyriwr fod â hawl i gael grantiau a benthyciadau o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

b

nid yw’r grantiau a’r benthyciadau hyn ar gael i’r myfyriwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 14 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

DigwyddiadauI315

Y digwyddiadau yw—

a

bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

b

bod y myfyriwr, neu briod neu bartner sifil y myfyriwr, neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

c

bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd, a’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

d

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;

e

bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

f

bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

g

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

h

bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 15 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2GRANT AT FFIOEDD

Grant newydd at ffioeddI416

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan gorff a restrir yn rheoliad (5)(1)(e), neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

2

Nid yw grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—

a

yn flwyddyn bwrsari;

b

yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; neu

c

yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

3

Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw un o’r amgylchiadau ym mharagraffau (7), (8), (9) neu (10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£4,954; neu

b

y gwahaniaeth rhwng £4,046 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

4

Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (7) neu (8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£2,560; neu

b

y gwahaniaeth rhwng £1,940 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

5

Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw paragraff (9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£900; neu

b

y gwahaniaeth rhwng £900 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

6

Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw paragraff (10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£675; neu

b

y gwahaniaeth rhwng £675 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

7

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn perthynas â blwyddyn academaidd olaf y cwrs dynodedig pan fo’n ofynnol cwblhau’r flwyddyn honno ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb fel arfer;

b

mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012—

i

pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

ii

mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

c

mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012 a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor—

i

pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

ii

mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

8

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a—

i

yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

ii

mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu

b

mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon ar y cyd â sefydliad tramor a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a—

i

yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

ii

mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

9

Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac—

a

yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

b

mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

10

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr ar y cyd â sefydliad tramor a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac;

i

yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

ii

mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu

b

mewn perthynas â blwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

11

At ddiben y rheoliad hwn, mae cwrs i gael ei drin fel pe bai’n cael ei ddarparu gan neu ar ran sefydliad addysgol cydnabyddedig—

a

os oedd sefydliad yn sefydliad addysgol cydnabyddedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf cwrs;

b

pan fo’r sefydliad hwnnw wedi peidio â bod yn sefydliad addysgol cydnabyddedig; ac

c

pan fo Gweinidogion Cymru wedi dynodi’r cwrs hwnnw o dan reoliad 5(8).

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 16 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 3BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioeddI517

1

Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â’r Rhan hon ar yr amod nad yw’r myfyriwr wedi ei hepgor o fod â hawl gan y paragraff a ganlyn, rheoliad 6 neu reoliad 7.

2

Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—

a

yn flwyddyn bwrsari;

b

yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; neu

c

yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

3

Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chwrs mynediad graddedig carlam.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 17 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Benthyciadau at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012: myfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2011I618

1

Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy ganddo mewn perthynas â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

2

Oni bai bod paragraff (3) yn gymwys, rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

a

£3,465 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7) yn gymwys, £1,725; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

3

Os oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i swm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

a

£4,030 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7) yn gymwys, £2,005; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall,

4

Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm perthnasol sy’n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

5

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.

6

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2012.

7

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 18 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012I719

1

Mae gan fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan gorff a restrir yn rheoliad 5(1)(e), neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

2

Nid oes benthyciad newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—

a

yn flwyddyn bwrsari;

b

yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; neu

c

yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

3

Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau yn rheoliadau 16(7), 16(8), 16(9) neu 16(10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£4,046; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

4

Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7) neu 16(8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£1,940; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

5

Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo rheoliad 16(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£900; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

6

Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo rheoliad 16(10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£675; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

7

Os yw myfyriwr carfan 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr carfan 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.

8

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr carfan 2012 sydd â’r hawl i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat.

9

At ddiben y rheoliad hwn, mae cwrs i gael ei drin fel pe bai’n cael ei ddarparu gan neu ar ran sefydliad addysgol cydnabyddedig—

a

os oedd sefydliad yn sefydliad addysgol cydnabyddedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw;

b

pan fo’r sefydliad hwnnw wedi peidio â bod yn sefydliad addysgol cydnabyddedig; ac

c

pan fo Gweinidogion Cymru wedi dynodi’r cwrs hwnnw o dan reoliad 5(8).

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 19 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Benthyciad ychwanegol at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012I820

1

Mae gan fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad ychwanegol at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan gorff a restrir yn rheoliad 5(1)(e), neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

2

Mae benthyciad ychwanegol at ffioedd ar gael mewn perthynas â chwrs dynodedig pan fo’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno yn fwy na’r swm a bennir ym mharagraff (3)(b), (4)(b), (5)(b) neu (6)(b) yn ôl y digwydd, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

3

Uchafswm y benthyciad ychwanegol at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan na fo unrhyw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7), 16(8), 16(9) neu 16(10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£250; a

b

y gwahaniaeth rhwng £9,000 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr.

4

Uchafswm y benthyciad ychwanegol at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7) neu 16(8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£125; a

b

y gwahaniaeth rhwng £4,500 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr.

5

Uchafswm y benthyciad ychwanegol at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£50; a

b

y gwahaniaeth rhwng £900 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr.

6

Uchafswm y benthyciad ychwanegol at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£35; a

b

y gwahaniaeth rhwng £675 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr.

7

Pan fo myfyriwr carfan 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad ychwanegol at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr carfan 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.

8

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr carfan 2012 sydd â’r hawl i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat.

9

At ddiben y rheoliad hwn, mae cwrs i gael ei drin fel pe bai’n cael ei ddarparu gan neu ar ran sefydliad addysgol cydnabyddedig—

a

os oedd sefydliad yn sefydliad addysgol cydnabyddedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw;

b

pan fo’r sefydliad hwnnw wedi peidio â bod yn sefydliad addysgol cydnabyddedig; ac

c

pan fo Gweinidogion Cymru wedi dynodi’r cwrs hwnnw o dan reoliad 5(8).

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 20 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifatI921

1

Mae gan fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

2

Nid oes benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—

a

yn flwyddyn bwrsari;

b

yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; neu

c

yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

3

Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat pan na fo unrhyw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7), 16(8), 16(9) neu 16(10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£6,165; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

4

Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat pan fo un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7) neu 16(8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£3,080; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

5

Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat pan fo rheoliad 16(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£1,230; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

6

Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat pan fo rheoliad 16(10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£920; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

7

Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr cymwys wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.

8

Nid yw benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat ar gael mewn perthynas â phresenoldeb myfyriwr cymwys ar gwrs pan fo’r cwrs hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad addysgol cydnabyddedig gan gorff yn rheoliad 5(1)(e)(ii) neu (iii).

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 21 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlamI1022

1

Mae gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam a benthyciad ychwanegol at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 ar gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

2

Nid oes benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam na benthyciad ychwanegol at ffioedd mynediad graddedig carlam ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn Erasmus.

3

Dim ond pan fo’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall, yn fwy na £5,535 y mae benthyciad ychwanegol at ffioedd mynediad graddedig carlam ar gael mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam.

4

Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

a

£5,535; neu

b

y gwahaniaeth rhwng £3,465 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.

5

Rhaid i swm benthyciad ychwanegol at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

a

£250; neu

b

y gwahaniaeth rhwng £5,535 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr.

6

Pan fo myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam neu fenthyciad ychwanegol at ffioedd mynediad graddedig carlam sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.