Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw

23.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod—

(a)nad yw’r myfyriwr cymwys wedi ei hepgor o fod â’r hawl gan unrhyw un o’r paragraffau a ganlyn, rheoliad 6 neu reoliad 7; a

(b)bod y myfyriwr cymwys yn bodloni amodau’r hawl i gael y grant penodol y mae’n gwneud cais amdano.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod odano.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), nid oes hawl gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 i gael grant o dan y Rhan hon.

(5Nid yw paragraff (4) yn gymwys at ddibenion rheoliadau 24 i 30, i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio ar gwrs mynediad graddedig carlam.

(6Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.

(7At ddibenion paragraff (6), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—

(a)gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;

(b)gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy’n darparu cyfleusterau neu sy’n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;

(c)gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu’r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;

(d)ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr cymwys sy’n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o’i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu

(e)gwasanaeth di-dâl gydag unrhyw un o’r canlynol—

(i)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1);

(ii)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 22 o’r Ddeddf honno(2);

(iii)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3);

(iv)Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol neu’r Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adrannau 7 a 12 o Ddeddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009(4);

(v)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Grŵp Comisiynu Clinigol a sefydlwyd o dan adran 1I o’r Ddeddf honno(5); neu

(vi)y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth mewn Gofal a sefydlwyd o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 neu’r Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 252 o’r Ddeddf honno(6).

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (9), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliadau 35 i 40 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

(9Nid yw paragraff (8) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw oherwydd bod y flwyddyn academaidd honno yn flwyddyn Erasmus yn unol â rheoliad 17(2).

(10Ym mharagraff (8) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliadau 35 i 40, yw benthyciad at ffioedd.

(11Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (12) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol yn unol â’r Rhan hon mewn perthynas â rhan o’r flwyddyn academaidd honno ond nid oes gan y myfyriwr hwnnw hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(12Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(13Yn ddarostyngedig i baragraff (14), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os yw’n garcharor.

(14Nid yw paragraff (13) yn gymwys o ran grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy’n daladwy mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012.

(15Rhaid trin myfyriwr y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben bod â hawl i gael y grantiau a ganlyn—

(a)grantiau ar gyfer dibynyddion;

(b)grant at gostau byw myfyrwyr anabl;

(c)grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;

(d)grant addysg uwch.

(16Mae paragraff (15) yn gymwys i’r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr cymwys anabl—

(i)nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd; ac

(c)myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.

(17Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell yr hawl i gael unrhyw grant o dan y Rhan hon ac eithrio (pan fo’n briodol) grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn unol â rheoliad 24.

Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl

24.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl i helpu i dalu am y gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys fynd iddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.

(2Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn, swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy’n briodol yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr cymwys.

(3Rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

(a)£21,181 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad,

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa; a

(d)£1,785 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant yr eir iddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau a bennir yn y paragraffau hynny.

(4Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dysgu o bell oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(5Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â’r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(6Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8), mae grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(7Pan fo grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)), caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.

(8Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 23(12) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a), (c) a (d), mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd, y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – cyffredinol

25.—(1Mae’r grantiau ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau a ganlyn—

(a)grant ar gyfer dibynyddion mewn oed;

(b)grant gofal plant;

(c)lwfans dysgu ar gyfer rhieni.

(2Nodir amodau’r hawl i gael pob elfen a’r symiau sy’n daladwy yn rheoliadau 26 i 29.

(3Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau’r grantiau ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 56.

Grantiau ar gyfer dibynyddion - grant ar gyfer dibynyddion mewn oed

26.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Mae’r grant ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd i fyfyriwr cymwys sydd naill ai—

(a)yn bartner i’r myfyriwr cymwys; neu

(b)yn ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net am y flwyddyn berthnasol yn fwy na £3,923.

(3Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed sy’n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 29, a’r swm sylfaenol yw—

(a)£2,732; neu

(b)os yw’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw’n fwy na £2,732 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plant

27.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant gofal plant yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (5) a (6), mae’r grant gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd i gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant ynddi a hynny ar gyfer—

(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau; neu

(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(7) ac sydd o dan 17 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn—

(a)os yw’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o’r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(8);

(b)os oes gan y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (elfen costau gofal plant)(9); neu

(c)os yw partner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael cymorth ariannol at ofal plant o dan fwrsari gofal iechyd.

(4Yn y Rheoliadau hyn, mae i “cyfnod hawlogaeth” a “datganiad cymhwystra dilys” yr ystyr a roddir i “entitlement period” a “valid declaration of eligibility” at ddibenion Deddf Taliadau Gofal Plant 2014(10) a rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf honno.

(5Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn yn ystod unrhyw gyfnod hawlogaeth y mae myfyriwr cymwys neu bartner myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys ar ei gyfer o dan Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014 mewn perthynas ag unrhyw blentyn.

(6Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant y mae’n mynd iddynt yn cael eu talu, neu os ydynt i’w talu, gan y myfyriwr i bartner y myfyriwr cymwys.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau(8), (9) a (10) swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—

(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £161.50 yr wythnos; neu

(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £274.55 yr wythnos,

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael unrhyw grant o’r fath mewn perthynas â phob wythnos sy’n dod o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw’r cwrs i ben ynddi.

(8Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant—

(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a

(b)os yw wythnos yr eir i gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant mewn perthynas â hi yn dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir uchafswm wythnosol y grant drwy luosi’r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (7) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu’r canlyniad â saith.

(9Pan na fo cais myfyriwr cymwys am grant gofal plant yn nodi darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfyngu ar swm y grant gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85 y cant o’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant hyd at uchafswm o £115 yr wythnos; a

(b)cyfyngu ar y taliad o’r grant gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.

(10Yn ddarostyngedig i baragraff (11), mae grant gofal plant yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(11Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 23(12) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant gofal plant.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – lwfans dysgu ar gyfer rhieni

28.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu ar gyfer rhieni os oes ganddo un neu fwy o ddibynyddion sy’n blant dibynnol.

(2Mae swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 29, a’r swm sylfaenol yw £1,557.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – eu cyfrifo

29.—(1Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn, y swm sy’n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w chael o dan reoliadau 26 i 28 yw’r swm hwnnw o’r elfen honno sy’n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu, swm sy’n hafal i (A - B) fel a ganlyn ac yn y drefn a ganlyn—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 26;

(b)i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 27; ac

(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 28.

(2Yn y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i baragraff (11)—

A yw swm cyfanredol y canlynol—

(a)incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach;

(b)incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; ac

(c)yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; a

B yw—

(a)£1,159 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;

(b)£3,473 os nad yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

(c)£4,632—

(i)os nad yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu

(ii)os yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn; a

(d)£5,797 os yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol gynharach, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os digwydd bod paragraff (3) neu’r paragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

(5Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol o dan baragraff (3), neu, pan fo’n gymwys, o dan baragraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm net y plant dibynnol yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

(6Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (9) ac (16), os yw B yn fwy na neu’n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w chael yn daladwy.

(7Os yw yn hafal i neu’n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w cael, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

(8Gostyngir swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(9Gostyngir swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(10Os yw swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy yw £50.

(11Mae paragraffau (12) i (15) yn gymwys os bydd unrhyw un o’r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;

(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i’r myfyriwr cymwys neu’n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;

(c)bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu’n peidio â bod yn rhiant unigol;

(d)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 23(12).

(12Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau’r myfyriwr cymwys yn y chwarter perthnasol—

(a)faint o ddibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;

(b)pwy yw’r dibynyddion hynny;

(c)a yw’r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.

(13Swm y grantiau ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu ar gyfer rhieni wedi eu cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (14) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.

(14Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu’r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau’r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y’u pennir o dan baragraff (12) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.

(15Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw—

(a)yn achos myfyriwr cymwys y cyfeirir ato ym mharagraff (11)(d), chwarter sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;

(b)fel arall, chwarter ac eithrio’r chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.

(16Caniateir gwneud didyniad yn unol â Rhan 9 o’r swm sy’n daladwy o ran elfen benodol o’r grantiau ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – dehongli

30.—(1Yn rheoliadau 26 i 29—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (5), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy’n dibynnu ar y myfyriwr cymwys, ac eithrio plentyn y myfyriwr cymwys, partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn bartner y myfyriwr cymwys;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr cymwys sy’n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto a hwnnw’n blentyn sy’n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr cymwys, plentyn dibynnol y myfyriwr cymwys neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(d)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(e)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy’n ddibynnol ar y myfyriwr cymwys;

(f)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm dibynnydd (y cyfrifir ei incwm o dan reoliadau 26 i 29) yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

(g)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac y mae ganddo blentyn dibynnol;

(h)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;

(i)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7);

(j)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (p), (q), (r) a pharagraffau (3) a (4) ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(k)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(l)ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;

(m)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae incwm dibynnydd y myfyriwr cymwys yn dod o’i mewn i’w asesu mewn perthynas â hi;

(n)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff (10) (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff (11) (yn achos dibynnydd mewn oed myfyriwr cymwys);

(o)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gynharach, yw—

(i)cyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno fel y’i pennir yng Ngham 1 o’r cyfrifiad yn adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007(11), ynghyd ag unrhyw daliadau a budd-daliadau eraill a grybwyllir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(12) (gan anwybyddu adran 401(2) o’r Ddeddf honno), a gafwyd neu a driniwyd fel pe baent wedi eu cael gan berson, i’r graddau nad ydynt yn gydran o gyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno;

(ii)cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu

(iii)pan fo deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani,

ac eithrio nad ystyrir yr incwm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) a delir i barti arall—

(a)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (j) yn cael ei drin fel partner—

(i)os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;

(b)at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;

(c)at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar y cwrs dynodedig a bennir neu’r ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(13) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(14) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.

(3At ddibenion rheoliad 28

(a)nid yw paragraff (1)(p) yn gymwys; a

(b)rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan baragraff (1)(j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.

(4At ddibenion penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr cymwys, ystyr “partner” (“partner”) o ran partner i fyfyriwr cymwys yw—

(a)priod i bartner myfyriwr cymwys;

(b)partner sifil i bartner myfyriwr cymwys;

(c)pan fo’r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn briod i B;

(d)pan fo’r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn bartner sifil i B;

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin â pherson mewn oed neu blentyn fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw’r oedolyn neu’r plentyn—

(a)yn ddibynnol ar—

(i)y myfyriwr cymwys yn unig; neu

(ii)partner y myfyriwr cymwys yn unig; ond

(b)yn hytrach yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a’i bartner gyda’i gilydd.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys yn unol â pharagraff (5), os yw A—

(a)yn briod neu’n bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(b)yn gynbartner partner y myfyriwr cymwys.

(7Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell (am y flwyddyn berthnasol at ddibenion rheoliad 26(2)(b) ac am y flwyddyn ariannol gynharach at ddibenion rheoliad 29(2)) wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn perthynas â hi ond gan ddiystyru—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(15);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(16);

(d)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(e)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(17) neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(18);

(f)unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd o dan adran 110(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu, yn ôl y digwydd, adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(19);

(g)unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno(20), neu adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i’r graddau y mae’r adran honno yn gymwys i bersonau ifanc categori 5 a 6 o fewn ystyr y Ddeddf honno;

(h)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(21); ac

(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol—

(i)unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn perthynas â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith; a

(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 20 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).

(8Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd yn cael eu gwneud o’r blaen gan y myfyriwr cymwys yn unol â rhwymedigaeth yr aed iddi cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr cymwys, mae incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys wedi ei ostwng—

(a)o swm sy’n hafal i’r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os aed i’r rhwymedigaeth yn rhesymol, ym marn Gweinidogion Cymru; neu

(b)o unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, os gellid yn rhesymol, yn eu barn hwy, bod wedi mynd i rwymedigaeth lai.

(9At ddibenion paragraff (7), os yw’r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau’n cael eu gwneud i’r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn dibynnol, rhaid trin y taliadau hynny fel incwm y plentyn dibynnol.

(10Penderfynir ar incwm gweddilliol partner myfyriwr cymwys yn unol â pharagraff 6 o Atodlen 5.

(11Penderfynir ar incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed myfyriwr cymwys yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 5 (ac eithrio is-baragraffau (8), (9) neu (10) o baragraff 5) gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at ddibynnydd mewn oed y myfyriwr cymwys.

Dehongli rheoliadau 32 i 34

31.  At ddibenion rheoliadau32 i 34—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at wariant yr eir iddo at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad neu gyfnod astudio neu gyfnod ar leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus—

(i)yn cynnwys gwariant cyn ac ar ôl bod yn bresennol felly; a

(ii)nid yw’n cynnwys unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 24;

(b)ystyr “chwarter cymhwysol” (“qualifying quarter”) yw chwarter pan fo’r myfyriwr cymwys yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, mewn sefydliad tramor, yr Athrofa, neu leoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus, am o leiaf hanner cyfnod y chwarter hwnnw.

Amodau’r hawl i gael y grant at deithio

32.—(1Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n mynychu cwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae rhan hanfodol ohono’n gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol) mewn perthynas â’r gwariant rhesymol y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys fynd iddo mewn blwyddyn academaidd at ddiben mynychu, mewn cysylltiad â chwrs y myfyriwr cymwys, unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw’n rhan o’r sefydliad) lle y darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol ac eithrio gwariant yr eir iddo at ddiben cyfnod o astudio preswyl heb fod yn y sefydliad.

(2Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys ynglŷn â’r gwariant rhesymol y mae’n orfodol iddo fynd iddo ym mhob chwarter cymhwysol naill ai yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’i gwrs, mewn sefydliad tramor, yr Athrofa neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae grant o dan y rheoliad hwn yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(4Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 23(12) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn.

Swm y grant at deithio

33.—(1Mae swm y grant sy’n daladwy o dan reoliad 32(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i’r gwariant rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu ei bod yn orfodol i’r myfyriwr cymwys fynd iddo at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £303.

(2Cyfrifir swm y grant sy’n daladwy o dan reoliad 32(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

  • lle mae—

  • X yn cynrychioli swm cyfanredol y costau teithio rhesymol y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys fynd iddynt ym mhob chwarter cymhwysol at y dibenion a nodir yn rheoliad 32.

  • Y yn cynrychioli swm cyfanredol y gwariant yr eir iddo ym mhob chwarter cymhwysol ac a bennir ym mharagraff (3).

(3Y gwariant a bennir, y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—

(a)gwariant y mae’r myfyriwr cymwys yn rhesymol yn mynd iddo wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf corfforol a ddioddefir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y cyfnod y mae’n bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus (“y lleoliad” yn y paragraff hwn);

(b)cost fisa neu fisâu y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys eu cael er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa neu’r lleoliad; ac

(c)costau meddygol y mae’n rhesymol i’r myfyriwr cymwys fynd iddynt er mwyn cyflawni amod gorfodol i fynd i’r diriogaeth, y wlad neu’r wladwriaeth lle y mae’r sefydliad tramor, yr Athrofa neu’r lleoliad.

Didyniadau o’r grant at deithio

34.  Caniateir gwneud didyniad o grant o dan reoliadau 32 a 33 yn unol â Rhan 9.

Grant cynhaliaeth

35.—(1Mae hawl gan fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 36 at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

(2Mae hawl gan fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2011 i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 37 at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

(3Nid oes hawl gan fyfyriwr cymwys i gael grant cynhaliaeth os oes hawl gan y myfyriwr cymwys hwnnw i gael grant cymorth arbennig.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae grant cynhaliaeth at gostau byw yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(5Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 23(12) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant cynhaliaeth at gostau byw.

Grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys sy’n fyfyrwyr carfan 2010 neu’n fyfyrwyr carfan 2012

36.—(1Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,161.

(2Mae myfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 ac sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,161;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,161 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £2,936 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–A pan fo SM yn £1,142 ac A yn £1 am bob £14.67 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys sy’n fyfyrwyr carfan 2011

37.—(1Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2011 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,780.

(2Mae myfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2011 ac sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,780;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,780 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £3,555 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–A pan fo SM yn £1,761 ac A yn £1 am bob £9.36 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50;

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cymorth arbennig

38.—(1Mae hawl gan fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 39 mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant yr eir iddynt at ddiben bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(2Mae hawl gan fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2011 i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 40 mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant yr eir iddynt at ddiben bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(3Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant cymorth arbennig os yw’r myfyriwr cymwys hwnnw—

(a)yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(22);

(b)yn cael ei drin fel rhywun sy’n atebol i wneud taliadau mewn perthynas ag annedd, a ragnodir gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o’r Ddeddf honno(23); neu

(c)yn atebol, neu’n cael ei drin fel pe bai’n atebol, i wneud taliadau mewn perthynas â’r llety y mae’n ei feddiannu fel ei gartref o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae grant cymorth arbennig yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(5Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 23(12) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant cymorth arbennig.

Grant cymorth arbennig – myfyrwyr cymwys sy’n fyfyrwyr carfan 2010 neu’n fyfyrwyr carfan 2012

39.—(1Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,161.

(2Mae myfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 ac sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,161;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,161 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £2,936 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–A pan fo SM yn £1,142 ac A yn £1 am bob £14.67 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

Grant cymorth arbennig – myfyrwyr cymwys sy’n fyfyrwyr carfan 2011

40.—(1Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2011 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,780.

(2Mae myfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2011 ac sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,780;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,780 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £3,555 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–A pan fo SM yn £1,761 ac A yn £1 am bob £9.36 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

(3)

1978 p. 29, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

2006 p. 41; mewnosodwyd adrannau 1H ac 1I gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), adrannau 9 a 10.

(7)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23 ac Atodlen 8, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 ac Atodlen 2, Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 3 ac O.S. 2010/1158.

(8)

2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

2007 p. 3; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Cyllid 2009 (p. 10), Atodlen 1, paragraff 6(o)(i), Deddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 3, paragraff 2(2) a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 17, paragraff 19.

(12)

2003 p. 1; diwygiwyd adran 401 gan O.S. 2005/3229, O.S. 2011/1037 ac O.S. 2014/211.

(13)

1973 p. 18, diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p. 53), adran 16 a chan Ddeddf Achosion Priodasol a Theulu 1984 (p. 42), adran 21.

(14)

2004 p. 33, diwygiwyd Atodlen 5 gan Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22), adran 17 ac Atodlen 11.

(15)

1992 p. 4, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(16)

2002 p. 38. Diwygiwyd adran 2 gan O.S. 2016/413 (Cy. 131). Diwygiwyd adran 4 gan O.S. 2010/1158 ac O.S. 2013/160 (C. 9).

(17)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3), Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23), adran 39 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 2.

(19)

Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989, o ran Lloegr, gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac mae O.S. 2009/268 ac O.S. 2009/2273 yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) yn adran 23C o ran Cymru, ac mae O.S. 2010/1329 (Cy. 112) (C. 81) ac O.S. 2011/ 824 (Cy. 123) (C. 32) yn cyfeirio at hyn.

(20)

Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(21)

2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(22)

1992 p. 4 . Gwnaed newidiadau i adran 124 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mae’r categorïau o dan adran 124(1)(e) wedi eu rhagnodi mewn rheoliadau. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206, a ddiwygiwyd gan O. S. 1997/2197, O.S. 2000/1981, O.S. 2001/3070, O.S. 2008/1826, O.S. 2009/2655, O.S. 2009/3152 ac O.S. 2013/2536.

(23)

Mae diwygiadau i adran 130 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 56 o Reoliadau Cymhorthdal Tai 2006 (O.S. 2006/213 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2008/1042, O.S. 2008/1082, O.S. 2012/757, O.S. 2013/630 ac O.S. 2013/2070).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources