Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 28/01/2021.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
55.—(1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw’r swm a gyfrifir o dan Atodlen 5, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o bryd i’w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys.
56.—(1) Mae swm sy’n hafal i’r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 5, i’w gymhwyso hyd nes dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a’r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w cael fel a ganlyn—
(a)yn gyntaf, i ostwng ADG;
(b)yn ail, i ostwng CCG;
(c)yn drydydd, i ostwng PLA;
(d)yn bedwerydd, i ostwng LLC i ddim llai na’r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;
(e)yn bumed, i ostwng GFT.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a)ADG yw swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 29;
(b)CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 29;
(c)GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w gael o dan reoliad 32, os oes unrhyw swm o gwbl;
(d)LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys (ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol) hawl i’w gael o dan Ran 6 i ddim llai na’r lefel isaf am y flwyddyn academaidd a bennir ym mharagraff (3);
(e)PLA yw swm, os oes unrhyw swm o gwbl, lwfans dysgu’r rhieni a gyfrifir o dan reoliad 29 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yn rheoliad 56(1)(e) yw, yn achos myfyriwr—
(a)yng nghategori 1, [F1£4,147];
(b)yng nghategori 2, [F2£7,505];
(c)yng nghategori 3, [F3£6,388];
(d)yng nghategori 4, [F4£6,388];
(e)yng nghategori 5, [F5£5,357].
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os y flwyddyn academaidd o dan sylw yw blwyddyn derfynol cwrs ac eithrio cwrs dwys, y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw, yn achos myfyriwr—
(a)yng nghategori 1, [F6£3,755];
(b)yng nghategori 2, [F7£6,834];
(c)yng nghategori 3, [F8£5,556];
(d)yng nghategori 4, [F9£5,556];
(e)yng nghategori 5, [F10£4,963].
(5) Pan fo categorïau gwahanol yn gymwys i fyfyriwr cymwys ar gyfer gwahanol chwarteri o’r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (3) a (4) yw swm cyfanredol y symiau a benderfynir o dan baragraff (6) ar gyfer pob un o’r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.
(6) Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter yw traean o’r swm ym mharagraff (3) neu (4) sy’n cyfateb i’r gyfradd sy’n gymwys ar gyfer y chwarter.
(7) Mae i’r categorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 52.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 56(3)(a) wedi ei amnewid (12.3.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/191), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 12(a)(i) (ynghyd â rhl. 2(2)(3))
F2Gair yn rhl. 56(3)(b) wedi ei amnewid (12.3.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/191), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 12(a)(ii) (ynghyd â rhl. 2(2)(3))
F3Gair yn rhl. 56(3)(c) wedi ei amnewid (12.3.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/191), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 12(a)(iii) (ynghyd â rhl. 2(2)(3))
F4Gair yn rhl. 56(3)(d) wedi ei amnewid (12.3.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/191), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 12(a)(iv) (ynghyd â rhl. 2(2)(3))
F5Gair yn rhl. 56(3)(e) wedi ei amnewid (12.3.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/191), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 12(a)(v) (ynghyd â rhl. 2(2)(3))
F6Gair yn rhl. 56(4)(a) wedi ei amnewid (12.3.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/191), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 12(b)(i) (ynghyd â rhl. 2(2)(3))
F7Gair yn rhl. 56(4)(b) wedi ei amnewid (12.3.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/191), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 12(b)(ii) (ynghyd â rhl. 2(2)(3))
F8Gair yn rhl. 56(4)(c) wedi ei amnewid (12.3.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/191), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 12(b)(iii) (ynghyd â rhl. 2(2)(3))
F9Gair yn rhl. 56(4)(d) wedi ei amnewid (12.3.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/191), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 12(b)(iv) (ynghyd â rhl. 2(2)(3))
F10Gair yn rhl. 56(4)(e) wedi ei amnewid (12.3.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/191), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 12(b)(v) (ynghyd â rhl. 2(2)(3))
Gwybodaeth Cychwyn
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: