- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
55.—(1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw’r swm a gyfrifir o dan Atodlen 5, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o bryd i’w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys.
56.—(1) Mae swm sy’n hafal i’r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 5, i’w gymhwyso hyd nes dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a’r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w cael fel a ganlyn—
(a)yn gyntaf, i ostwng ADG;
(b)yn ail, i ostwng CCG;
(c)yn drydydd, i ostwng PLA;
(d)yn bedwerydd, i ostwng LLC i ddim llai na’r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;
(e)yn bumed, i ostwng GFT.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a)ADG yw swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 29;
(b)CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 29;
(c)GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w gael o dan reoliad 32, os oes unrhyw swm o gwbl;
(d)LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys (ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol) hawl i’w gael o dan Ran 6 i ddim llai na’r lefel isaf am y flwyddyn academaidd a bennir ym mharagraff (3);
(e)PLA yw swm, os oes unrhyw swm o gwbl, lwfans dysgu’r rhieni a gyfrifir o dan reoliad 29 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yn rheoliad 56(1)(e) yw, yn achos myfyriwr—
(a)yng nghategori 1, £4,019;
(b)yng nghategori 2, £7,273;
(c)yng nghategori 3, £6,190;
(d)yng nghategori 4, £6,190;
(e)yng nghategori 5, £5,191.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os y flwyddyn academaidd o dan sylw yw blwyddyn derfynol cwrs ac eithrio cwrs dwys, y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw, yn achos myfyriwr—
(a)yng nghategori 1, £3,638;
(b)yng nghategori 2, £6,623;
(c)yng nghategori 3, £5,384;
(d)yng nghategori 4, £5,384;
(e)yng nghategori 5, £4,809.
(5) Pan fo categorïau gwahanol yn gymwys i fyfyriwr cymwys ar gyfer gwahanol chwarteri o’r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (3) a (4) yw swm cyfanredol y symiau a benderfynir o dan baragraff (6) ar gyfer pob un o’r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.
(6) Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter yw traean o’r swm ym mharagraff (3) neu (4) sy’n cyfateb i’r gyfradd sy’n gymwys ar gyfer y chwarter.
(7) Mae i’r categorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 52.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: