RHAN 1CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Chwefror 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
F1(3)
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018 oni bai bod rheoliad 2(3) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 yn gymwys i’r cwrs.