Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 09/08/2024.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
109.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd neu fenthyciad newydd at ffioedd rhan-amser oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i’r myfyriwr rhan-amser cymwys o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawlogaeth i’w gael o dan y Rhan hon.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, grant newydd at gyrsiau rhan-amser, grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl a grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion onid ydynt yn ystyried nad yw’n briodol gwneud hynny.
(4) Dyma’r dulliau adennill—
(a)tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr rhan-amser cymwys o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(b)cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.
(5) Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl neu grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn tynnu allan o’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
(6) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(7) Yn y naill neu’r llall o’r amgylchiadau ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
(8) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—
(a)bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant at gostau byw myfyriwr rhan-amser anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr rhan-amser cymwys;
(b)bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
(c)nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.
(9) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—
(a)bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a
(b)bod taliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i’r myfyriwr yn cael ei wneud ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.
(10) Pan fo gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â’r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(11) At ddiben y rheoliad hwn, mae cyfeiriad at fyfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 81 (myfyrwyr rhan-amser cymwys).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: