RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Cyrsiau ôl-radd dynodedig

112.—(1Mae cwrs ôl-radd yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 110—

(a)os yw’n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu’n uwch i gael mynediad iddo fel rheol;

(b)os yw’n gwrs—

(i)sy’n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd; a

(ii)yn achos cwrs rhan-amser a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau’r cwrs mewn nid mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol; neu

(iii)yn achos cwrs rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau’r cwrs mewn nid mwy na phedair gwaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol;

(c)os yw’n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

(d)ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2017, os yw’n cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig; ac

(e)os nad yw’n gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu’n gwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

(2At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus;

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1); a

(d)mae cwrs wedi ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig pan fo o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.

(3At ddibenion paragraff (1)(b)(ii)—

(a)ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs llawnamser sy’n arwain at yr un cymhwyster â’r cwrs rhan-amser dan sylw;

(b)ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw’r cyfnod y byddai myfyriwr llawnamser safonol yn cwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol;

(c)ystyr “myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr sydd i’w ystyried yn un—

(i)sydd wedi dechrau ar y cwrs llawnamser cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;

(ii)nad yw wedi ei esgusodi o unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol;

(iii)nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol; a

(iv)nad yw wedi bod yn absennol o’r cwrs llawnamser cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.

(4At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 110, caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

(5Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (4).

(1)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.