RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Cyfnod cymhwystraI1113

1

Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â chwrs ôl-radd dynodedig hyd nes terfynir y statws hwnnw yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 110.

2

Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

3

Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn a rheoliad 110, mae’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig.

4

Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“A” yn y paragraff hwn a pharagraff (5))—

a

yn tynnu’n ôl o’i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu na fyddant yn trosglwyddo statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 114; neu

b

yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.

5

Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

6

Pan fo’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig sy’n gwrs rhan-amser, mae’r cyfnod cymhwystra’n terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pan â’n amhosibl, yn ystod y flwyddyn honno neu ar ei diwedd, i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys gwblhau’r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 112(1)(b)(ii).

7

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau a ganlyn y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

a

terfynu’r cyfnod cymhwystra;

b

penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant o dan y Rhan hon;

c

trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 119.

8

Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar y dyddiad y daw’r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y byddant yn penderfynu arnynt.