Cymorth at ffioedd yn gyffredinolLL+C
13.—(1) Ni chaiff cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd fod yn fwy na’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
(2) At ddibenion cyfrifo swm y cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon, rhaid peidio ag ystyried sefydliad sy’n darparu cyrsiau a ddynodir gan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 1999(1) yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am yr unig reswm ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992(2).
(3) Rhaid ymdrin â myfyriwr cymwys y mae paragraff (4) yn gymwys iddo fel pe bai’r myfyriwr cymwys yn bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben bod â hawl i gael cymorth at ffioedd.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r canlynol—
(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
(b)myfyriwr cymwys anabl—
(i)nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol oherwydd na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y myfyriwr cymwys.
(5) [F1Yn ddarostyngedig i baragraff (5A),] Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r cwrs hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
[F2(5A) Nid yw paragraff (5) yn gymwys pan—
(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,
(b)na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac
(c)na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.]
(6) Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
[F3(7) Ond nid yw paragraff (6) yn gymwys pan fo’r myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod y myfyriwr neu berthynas agos i’r myfyriwr yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 13(5) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 25(a)
F2Rhl. 13(5A) wedi ei fewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 25(b)
F3Rhl. 13(7) wedi ei fewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 25(c)
Gwybodaeth Cychwyn
O.S. 1999/2263, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2893.
1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.