Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Cymorth at ffioedd yn gyffredinol

13.—(1Ni chaiff cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd fod yn fwy na’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

(2At ddibenion cyfrifo swm y cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon, rhaid peidio ag ystyried sefydliad sy’n darparu cyrsiau a ddynodir gan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 1999(1) yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am yr unig reswm ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992(2).

(3Rhaid ymdrin â myfyriwr cymwys y mae paragraff (4) yn gymwys iddo fel pe bai’r myfyriwr cymwys yn bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben bod â hawl i gael cymorth at ffioedd.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr cymwys anabl—

(i)nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol oherwydd na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y myfyriwr cymwys.

(5Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r cwrs hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(6Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(1)

O.S. 1999/2263, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2893.

(2)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

Back to top

Options/Help