xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 4LL+CGRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD

PENNOD 1LL+CDARPARIAETH GYFFREDINOL

DigwyddiadauLL+C

15.  Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, neu briod neu bartner sifil y myfyriwr, neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd, a’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;

(e)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(h)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 15 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)