xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan gorff a restrir yn rheoliad (5)(1)(e), neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Nid yw grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—
(a)yn flwyddyn bwrsari;
(b)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; neu
(c)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.
(3) Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw un o’r amgylchiadau ym mharagraffau (7), (8), (9) neu (10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£4,954; neu
(b)y gwahaniaeth rhwng £4,046 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.
(4) Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (7) neu (8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£2,560; neu
(b)y gwahaniaeth rhwng £1,940 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.
(5) Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw paragraff (9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£900; neu
(b)y gwahaniaeth rhwng £900 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.
(6) Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw paragraff (10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£675; neu
(b)y gwahaniaeth rhwng £675 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.
(7) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)mewn perthynas â blwyddyn academaidd olaf y cwrs dynodedig pan fo’n ofynnol cwblhau’r flwyddyn honno ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb fel arfer;
(b)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012—
(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;
(c)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012 a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor—
(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.
(8) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a—
(i)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu
(b)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon ar y cyd â sefydliad tramor a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a—
(i)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.
(9) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac—
(a)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
(b)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.
(10) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr ar y cyd â sefydliad tramor a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac;
(i)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu
(b)mewn perthynas â blwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012.
(11) At ddiben y rheoliad hwn, mae cwrs i gael ei drin fel pe bai’n cael ei ddarparu gan neu ar ran sefydliad addysgol cydnabyddedig—
(a)os oedd sefydliad yn sefydliad addysgol cydnabyddedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf cwrs;
(b)pan fo’r sefydliad hwnnw wedi peidio â bod yn sefydliad addysgol cydnabyddedig; ac
(c)pan fo Gweinidogion Cymru wedi dynodi’r cwrs hwnnw o dan reoliad 5(8).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 16 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)