RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD

PENNOD 3BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012I119

1

Mae gan fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan gorff a restrir yn rheoliad 5(1)(e), neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

2

Nid oes benthyciad newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—

a

yn flwyddyn bwrsari;

b

yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; neu

c

yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

3

Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau yn rheoliadau 16(7), 16(8), 16(9) neu 16(10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£4,046; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

4

Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7) neu 16(8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£1,940; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

5

Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo rheoliad 16(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£900; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

6

Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo rheoliad 16(10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£675; a

b

y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

7

Os yw myfyriwr carfan 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr carfan 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.

8

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr carfan 2012 sydd â’r hawl i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat.

9

At ddiben y rheoliad hwn, mae cwrs i gael ei drin fel pe bai’n cael ei ddarparu gan neu ar ran sefydliad addysgol cydnabyddedig—

a

os oedd sefydliad yn sefydliad addysgol cydnabyddedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw;

b

pan fo’r sefydliad hwnnw wedi peidio â bod yn sefydliad addysgol cydnabyddedig; ac

c

pan fo Gweinidogion Cymru wedi dynodi’r cwrs hwnnw o dan reoliad 5(8).