- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
23.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod—
(a)nad yw’r myfyriwr cymwys wedi ei hepgor o fod â’r hawl gan unrhyw un o’r paragraffau a ganlyn, rheoliad 6 neu reoliad 7; a
(b)bod y myfyriwr cymwys yn bodloni amodau’r hawl i gael y grant penodol y mae’n gwneud cais amdano.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod odano.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), nid oes hawl gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 i gael grant o dan y Rhan hon.
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys at ddibenion rheoliadau 24 i 30, i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio ar gwrs mynediad graddedig carlam.
(6) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.
(7) At ddibenion paragraff (6), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—
(a)gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;
(b)gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy’n darparu cyfleusterau neu sy’n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;
(c)gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu’r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;
(d)ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr cymwys sy’n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o’i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu
(e)gwasanaeth di-dâl gydag unrhyw un o’r canlynol—
(i)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1);
(ii)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 22 o’r Ddeddf honno(2);
(iii)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3);
(iv)Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol neu’r Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adrannau 7 a 12 o Ddeddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009(4);
(v)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Grŵp Comisiynu Clinigol a sefydlwyd o dan adran 1I o’r Ddeddf honno(5); neu
(vi)y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth mewn Gofal a sefydlwyd o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 neu’r Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 252 o’r Ddeddf honno(6).
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliadau 35 i 40 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
(9) Nid yw paragraff (8) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw oherwydd bod y flwyddyn academaidd honno yn flwyddyn Erasmus yn unol â rheoliad 17(2).
(10) Ym mharagraff (8) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliadau 35 i 40, yw benthyciad at ffioedd.
(11) Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (12) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol yn unol â’r Rhan hon mewn perthynas â rhan o’r flwyddyn academaidd honno ond nid oes gan y myfyriwr hwnnw hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(12) Y digwyddiadau yw—
(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
(13) Yn ddarostyngedig i baragraff (14), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os yw’n garcharor.
(14) Nid yw paragraff (13) yn gymwys o ran grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy’n daladwy mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012.
(15) Rhaid trin myfyriwr y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben bod â hawl i gael y grantiau a ganlyn—
(a)grantiau ar gyfer dibynyddion;
(b)grant at gostau byw myfyrwyr anabl;
(c)grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;
(d)grant addysg uwch.
(16) Mae paragraff (15) yn gymwys i’r canlynol—
(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
(b)myfyriwr cymwys anabl—
(i)nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd; ac
(c)myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.
(17) Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell yr hawl i gael unrhyw grant o dan y Rhan hon ac eithrio (pan fo’n briodol) grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn unol â rheoliad 24.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 23 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
1978 p. 29, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
2006 p. 41; mewnosodwyd adrannau 1H ac 1I gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), adrannau 9 a 10.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: