Grantiau at gostau byw myfyrwyr anablLL+C
24.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl i helpu i dalu am y gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys fynd iddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.
(2) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn, swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy’n briodol yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr cymwys.
(3) Rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na’r canlynol—
(a)[F1£22,472 ]mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b)[F2£5,657 ]mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
(c)y gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad,
(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa; a
(d)[F3£1,894 ]mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant yr eir iddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau a bennir yn y paragraffau hynny.
(4) [F4Yn ddarostyngedig i baragraff (4A),] Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dysgu o bell oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
[F5(4A) Nid yw paragraff (4) yn gymwys pan—
(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,
(b)na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac
(c)na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.]
(5) Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â’r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
[F6(5A) Ond nid yw paragraff (5) yn gymwys pan fo’r myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod y myfyriwr neu berthynas agos i’r myfyriwr yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.]
(6) Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8), mae grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
(7) Pan fo grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)), caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.
(8) Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 23(12) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a), (c) a (d), mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd, y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl.
Diwygiadau Testunol
F1Swm in Rhl. 24(3)(a) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 23(a)
F2Swm in Rhl. 24(3)(b) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 23(b)
F3Swm in Rhl. 24(3)(d) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 23(c)
F4Geiriau yn rhl. 24(4) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 28(a)
F5Reg. 24(4A) inserted (30.7.2018) by The Education (Student Finance) (Miscellaneous Amendments) (Wales) Regulations 2018 (S.I. 2018/814), regs. 1(2), 28(b)
F6Rhl. 24(5A) wedi ei fewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 28(c)
Gwybodaeth Cychwyn