Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
26.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Mae’r grant ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd i fyfyriwr cymwys sydd naill ai—
(a)yn bartner i’r myfyriwr cymwys; neu
(b)yn ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net am y flwyddyn berthnasol yn fwy na £3,923.
(3) Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed sy’n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 29, a’r swm sylfaenol yw—
(a)£2,732; neu
(b)os yw’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw’n fwy na £2,732 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.