Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plantLL+C

27.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant gofal plant yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (5) a (6), mae’r grant gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd i gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant ynddi a hynny ar gyfer—

(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau; neu

(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd o dan 17 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn—

(a)os yw’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o’r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(2);

(b)os oes gan y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (elfen costau gofal plant)(3); neu

(c)os yw partner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael cymorth ariannol at ofal plant o dan fwrsari gofal iechyd.

(4Yn y Rheoliadau hyn, mae i “cyfnod hawlogaeth” a “datganiad cymhwystra dilys” yr ystyr a roddir i “entitlement period” a “valid declaration of eligibility” at ddibenion Deddf Taliadau Gofal Plant 2014(4) a rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf honno.

(5Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn yn ystod unrhyw gyfnod hawlogaeth y mae myfyriwr cymwys neu bartner myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys ar ei gyfer o dan Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014 mewn perthynas ag unrhyw blentyn.

(6Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant y mae’n mynd iddynt yn cael eu talu, neu os ydynt i’w talu, gan y myfyriwr i bartner y myfyriwr cymwys.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau(8), (9) a (10) swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—

(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £161.50 yr wythnos; neu

(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £274.55 yr wythnos,

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael unrhyw grant o’r fath mewn perthynas â phob wythnos sy’n dod o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw’r cwrs i ben ynddi.

(8Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant—

(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a

(b)os yw wythnos yr eir i gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant mewn perthynas â hi yn dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir uchafswm wythnosol y grant drwy luosi’r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (7) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu’r canlyniad â saith.

(9Pan na fo cais myfyriwr cymwys am grant gofal plant yn nodi darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfyngu ar swm y grant gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85 y cant o’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant hyd at uchafswm o £115 yr wythnos; a

(b)cyfyngu ar y taliad o’r grant gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.

(10Yn ddarostyngedig i baragraff (11), mae grant gofal plant yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(11Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 23(12) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant gofal plant.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 27 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

(1)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23 ac Atodlen 8, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 ac Atodlen 2, Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 3 ac O.S. 2010/1158.

(2)

2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.