Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu’n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudio

43.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—

  • X i fyfyriwr o’r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £5,358;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £9,697;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £8,253;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £8,253;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £6,922;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—

  • X i fyfyriwr o’r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £4,851;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £8,830;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £7,179;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £7,179;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £6,412;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw’r canlynol—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 36 i gael swm o grant cynhaliaeth, y swm sy’n hafal i £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i’w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,580;

(b)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 36, dim.