RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Myfyrwyr sy’n preswylio gyda’u rhieni46

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo myfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn) yn preswylio yng nghartref ei rieni a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni A ei gynnal oherwydd oedran, analluedd neu reswm arall ac y byddai’n briodol i swm y benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr mewn categori ac eithrio categori 1 fod yn gymwys yn achos A, rhaid trin A fel pe na bai’n preswylio yng nghartref ei rieni.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.