xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CBENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Codiadau yn yr uchafswmLL+C

50.—(1Os yw’n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy’n hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn [F1rheoliad 43 neu, yn ôl y digwydd, 44] am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn, i fyfyriwr o’r fath:

(a)yng nghategori 1, £80;

(b)yng nghategori 2, £153;

(c)yng nghategori 3, £166;

(d)yng nghategori 4, £166;

(e)yng nghategori 5, £120.

(2Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod nad yw’n llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn [F2rheoliad 43 neu, yn ôl y digwydd, 44] am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr cymwys yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 50 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)