RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Codiadau yn yr uchafswm50

1

Os yw’n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy’n hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliad 44 am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn, i fyfyriwr o’r fath:

a

yng nghategori 1, £80;

b

yng nghategori 2, £153;

c

yng nghategori 3, £166;

d

yng nghategori 4, £166;

e

yng nghategori 5, £120.

2

Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod nad yw’n llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliad 44 am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr cymwys yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

3

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol.