Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 28/01/2021.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
58.—(1) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn, caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 5 yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(2) Mae’n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth o dan Ran 5 mewn rhandaliadau, rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth o dan y Rhan honno, i fyfyriwr cymwys cyn i’r cadarnhad o bresenoldeb ddod i law onid oes eithriad yn gymwys, y cyfeirir ato ym mharagraff (4).
(4) Mae eithriad yn gymwys at ddibenion paragraff (3)—
(a)pan fo grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy, ac yn yr achos hwnnw caniateir talu’r grant arbennig hwnnw cyn i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law Gweinidogion Cymru; neu
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol oherwydd amgylchiadau eithriadol i wneud taliad a chadarnhad o bresenoldeb heb eto ddod i law.
(5) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 5.
(6) Mae taliadau cymorth o dan Ran 5 i’w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor arno, oni fyddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r diwrnod hwnnw.
(8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl.
(9) Wrth benderfynu a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (7), mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol y byddai peidio â thalu’r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu’r cymorth yn effeithio ar allu’r myfyriwr cymwys i barhau â’r cwrs.
(10) Nid oes cymorth yn daladwy o dan Ran 5 mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.
(11) Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—
(a)swm pob grant at gostau byw y mae’r myfyriwr hwnnw’n gymwys i’w gael ac a fyddai’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol pe na fyddai cyfnod cymhwystra’r myfyriwr hwnnw wedi dod i ben (y “swm llawn”); a
(b)faint o’r swm llawn sy’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod sy’n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys i ben (y “swm rhannol”).
(12) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(13) Os yw Gweinidogion Cymru wedi talu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys i ben a bod taliad yn fwy na swm rhannol y grant hwnnw—
(a)cânt drin y tâl dros ben fel gordaliad o’r grant hwnnw; neu
(b)os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny cânt estyn cyfnod cymhwystra’r myfyriwr hwnnw mewn perthynas â’r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod swm llawn y grant yn daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu hwnnw.
(14) Yn ddarostyngedig i baragraff (15), os yw taliad grant at gostau byw mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol i’w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y’i telir, swm y grant hwnnw sy’n daladwy yw’r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol ac yn briodol penderfynu bod swm llawn y grant hwnnw’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu hwnnw.
(15) Nid yw paragraff (14) yn gymwys i daliad grant at gostau byw i fyfyrwyr anabl o ran offer arbenigol.
(16) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr amgylchiadau i gyd i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r cyfnod o absenoldeb.
(17) Wrth benderfynu pa un a fyddai’n briodol i gymorth fod yn daladwy o dan baragraff (16) mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a’r caledi ariannol a achosid pe na bai’r cymorth yn cael ei dalu.
(18) Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs os yw’r myfyriwr cymwys yn methu â bod yn bresennol oherwydd salwch ac na fu’n absennol am fwy na 60 diwrnod.
(19) Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad o gymorth o dan Ran 5 neu Ran 6, yn penderfynu swm y grant at gostau byw a chostau eraill y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael, naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—
(a)os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yw’r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm ychwanegol, a chânt wneud hynny yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol;
(b)os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yw’r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddidynnu swm y gostyngiad o weddill y grant hwnnw sydd eto i’w dalu;
(c)os yw swm y gostyngiad yn fwy na gweddill y grant hwnnw sydd eto i’w dalu, rhaid gostwng y gweddill hwnnw i ddim, a didynnu’r balans o unrhyw grant arall at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr yn i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd;
(d)gellir adennill unrhyw ordaliad sy’n weddill yn unol â rheoliad 62.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: