- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
62.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant newydd at ffioedd neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Rhaid i fyfyriwr cymwys, os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm a delir i’r myfyriwr cymwys o dan Ran 5 neu 6 ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na’r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth arno o dan Ran 5 neu 6.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill onid ydynt yn ystyried nad yw’n briodol gwneud hynny.
(4) Mae taliad o unrhyw grant at gostau byw a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
(5) Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (6) neu (7), mae gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr anabl oni fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw—
(a)mae Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r cyfan neu ran o’r grant at gostau byw myfyrwyr anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr cymwys;
(b)mae cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
(c)nid yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i’w gyfnod cymhwystra ddod i ben.
(7) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw—
(a)mae cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a
(b)gwneir taliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i’r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben.
(8) Os oes gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â’r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(9) Caniateir adennill unrhyw ordaliad o unrhyw grant o dan Ran 5 ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd a ganlyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau—
(a)drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(b)drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordaliad ag sydd ar gael iddynt.
(10) Caniateir adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd os yw, ym marn Gweinidogion Cymru—
(a)y gordaliad wedi digwydd o ganlyniad i fethiant ar ran y myfyriwr i ddarparu’n brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ba un a oes hawl gan y myfyriwr ai peidio i gael benthyciad neu ar swm y benthyciad y mae hawl ganddo i’w gael;
(b)unrhyw wybodaeth y mae’r myfyriwr wedi ei darparu yn anghywir mewn manylyn perthnasol; neu
(c)y myfyriwr wedi methu â darparu gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.
(11) Pan fo modd adennill gordaliad o fenthyciad at gostau byw yn unol â pharagraff (10), caniateir ei adennill ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd a ganlyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau—
(a)drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(b)drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordaliad ag sydd ar gael iddynt.
(12) Os oes gordaliad wedi bod o fenthyciad at gostau byw nad oes modd ei adennill o dan baragraff (10), caiff Gweinidogion Cymru dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.
(13) Yn y rheoliad hwn “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(14) At ddiben y rheoliad hwn, mae cyfeiriad at fyfyriwr cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan Ran 5 neu 6 ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 4 (myfyrwyr cymwys).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 62 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: